Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Mai 2016

BBC Radio Cymru i arbrofi gyda gorsaf dros dro fel rhan o ddatblygiadau digidol

Ar drothwy cyfnod cyffrous o ddathliadau pen-blwydd, mae BBC Radio Cymru am greu pecyn o ddatblygiadau digidol, gan gynnwys gorsaf dros dro yn ystod tymor yr hydref, fydd yn cynnig hyd yn oed mwy o ddewis rhaglenni i wrandawyr.

Bydd y gwasanaeth arloesol dros dro – yn llawn cerddoriaeth a sgwrs - yn cael ei lansio ar drothwy pen-blwydd Radio Cymru yn ddeugain oed yn 2017, ac yn rhan o gynlluniau ehangach gan yr orsaf i fanteisio ar lwyfannau digidol.

Fel rhan o’r cyfnod peilot, bydd yr orsaf dros dro yn darlledu yn ystod bore’r wythnos waith - arlein, ar wefan Radio Cymru, ar yr ap iPlayer Radio drwy Gymru gyfan - ac fel dewis arall ar radio DAB yn y de ddwyrain.

Bydd amserlen y brif orsaf yn aros fel ag y mae ar FM a DAB.

Dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: “Does dim dwywaith fod ’na gyffro ar drothwy’r pen-blwydd mawr yn ddeugain oed.

"Ac wrth i’r platfformau digidol ddatblygu, mae’n bwysig fod Radio Cymru yn manteisio ac arloesi.

"Arbrawf tri mis fydd yr orsaf dros dro – i wrandawyr gael mwynhau ac i ni gael dysgu a thrio pethau technegol a chlyfar ond heb ddieithrio gwrandawyr ffyddlon Radio Cymru.

"Y nod yw cael un gwasanaeth cenedlaethol gyda mwy nag un dewis.

“Wedi’r tri mis, fe fyddwn yn ystyried y camau nesaf yng ngoleuni’r peilot, datblygiadau technegol a realiti ariannol BBC Cymru."

Fel rhan o’r cynlluniau digidol arloesol bydd Radio Cymru hefyd yn creu gofod newydd arlein sy’n cynnig deunydd Cymraeg i gynulleidfa C2, cydweithio gyda phartneriaid i feithrin lleisiau newydd a manteisio ar ap cerddoriaeth newydd y BBC, sy’n rhoi’r gallu i ddefnyddwyr ddewis eu hoff gerddoriaeth, gan gynnwys artistiaid Cymraeg.

Ategodd Betsan Powys: “Mae’n fwriad gennym hefyd i arbrofi gyda nifer o syniadau yn ystod y cyfnod yma gan gynnwys creu partneriaethau newydd gyda Prosiect 15 a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i feithrin lleisiau all gyflwyno safbwyntiau newydd i’r orsaf yn ogystal ag adeiladu ar ein perthynas gyda chriw Cyw S4C yn sgîl llwyddiant Stori Tic Toc.

"Felly mae hi’n mynd i fod yn gyfnod prysur a heriol ond un a fydd, gobeithio yn dod â mwy o gynnwys diddorol i’r gwrandawyr.”

Bydd Radio Cymru yn datgelu mwy o fanylion am y cynlluniau digidol gan gynnwys yr orsaf dros dro yn ystod y misoedd nesaf.
 

Rhannu |