Mwy o Newyddion
Galwad y colegau i atal arbenigedd addysgol Cymru rhag pylu
O ymateb i gyhoeddiad yr ystadegau swyddogol sy’n dangos cwymp sylweddol yn nifer y staff a gyflogir gan sefydliadau addysg bellach, mae’r elusen sgiliau ac addysg ôl-16, ColegauCymru, wedi rhybuddio bod y dihysbyddiad mewn arbenigedd addysgol yn peryglu cystadleugarwch Cymru.
Mae’r ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru’n dangos bod cyfanswm nifer y staff cyfwerth ag amser llawn a gyflogir gan golegau a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi cwympo 7.3% rhwng 2013/14 a 2014/15.
Collwyd 665 o staff cyfwerth ag amser llawn yn y flwyddyn academaidd ddiwethaf yn unig. Mae nifer y staff a gyflogir bellach yn is nag y bu yn ystod y deng mlynedd flaenorol.
Dywedodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru: “Mae cyflogi llai o staff yn y colegau’n arwain at lai o gyfleoedd dysgu.
"Mae hyn yn peryglu dyfodol cynifer o bobl ifanc ac yn difetha cyfleoedd unigolion sy’n edrych i ailsgilio neu newid gyrfa.”
Mae cannoedd o staff wedi gadael y sector wrth i golegau uno ac ad-drefnu er mwyn rheoli’r toriadau diwahân mewn cyllid.
Heriodd cyn Weinidogion Llywodraeth Cymru y sector i wneud arbedion mewn dyletswyddau ystafell gefn er mwyn diogelu gwasanaethau’r rheng flaen. Mae hyn wedi’i wneud. Mae’r ystadegau’n dangos bod cyfran y staff sydd ynghlwm mewn addysgu a dysgu wedi parhau’n sefydlog, ar tua 71% o gyfanswm y staff. Ar y llaw arall, mae staffio mewn gweinyddiaeth a gwasanaethau canolog wedi gostwng o 14% o’r cyfanswm yn 2013/14 i 12% yn 2014/15.
Fodd bynnag, mae graddfa’r her a osodwyd gan gyfres o setliadau cyllid anodd wedi golygu bod lefelau staffio ar draws holl feysydd darpariaeth y colegau wedi’u torri, gan gynnwys mewn addysgu a dysgu.
Ychwanegodd Iestyn Davies: “Mae colegau addysg bellach yn allweddol i sbarduno’r economi.
"Maen nhw’n cefnogi pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd i godi eu lefelau sgiliau a’u paratoi ar gyfer addysg uwch, cyflogaeth, dyrchafiad ac entrepreneuriaeth.
“Beth bynnag yw eu swyddi penodol, mae’r holl staff mewn colegau addysg bellach yn cyfrannu at gyflawni sgiliau hanfodol yn ogystal â chymwysterau academaidd, galwedigaethol a phroffesiynol.
"Maen nhw’n cefnogi, yn hyfforddi ac yn mentora prentisiaid a dysgwyr llwyddiannus i safon fyd-eang. Maent yn helpu adeiladu cymdeithas fwy gwydn ac yn helpu datblygu gallu busnesau i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd.
“Er mwyn gallu ymroi eu harbenigedd i’w rôl allweddol o addysgu a dysgu, mae angen iddynt gael eu cefnogi gan wasanaethau canolog effeithlon a phroffesiynol. Mae’r colegau wedi tynhau’u gwregysau, wedi arbed ar wasanaethau’r ystafell gefn ac wedi dod yn fwy effeithlon. Ond mae colli cynifer o staff mewn un flwyddyn academaidd yn golygu bod Cymru’n dlotach o’r herwydd.
“Gan fod llai o staff ar gael i gyflwyno dysgu i boblogaeth sy’n tyfu mewn gwlad y mae angen datblygu ei heconomi’n ddybryd, ni allwn fforddio unrhyw wanhau pellach ar gyfalaf dynol y colegau.
“Cyn cyhoeddi’r rhaglen i’r Llywodraeth, mae angen i Gymru sefydlu model cymdeithasol gyfiawn ar frys ar gyfer addysg ôl-16, hyfforddiant sgiliau a dysgu gydol oes.”
Yn ei faniffesto cyn yr etholiadau diweddar, galwodd ColegauCymru ar Lywodraeth nesaf Cymru i gytuno gweledigaeth strategol a dod â chydlyniad i’r sector addysg a hyfforddiant ôl-16 cyfan.
Dywed mai ‘nid peth braf’ yw cael addysg bellach ac addysg i oedolion ond rhywbeth hanfodol. Mae wedi galw ar Weinidogion i sicrhau bod cyfleoedd addysg a hyfforddiant yn cael yr adnoddau cywir gyda staff proffesiynol i gyflawni Cymru gymdeithasol gyfiawn a ffyniannus.
Wrth gloi, dywedodd Iestyn Davies: “Mae’r colegau’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth nesaf Cymru ac aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni newid. Rhaid i’r newid hwnnw atal y cyfalaf dynol proffesiynol rhag pylu o’n model colegau dielw.