Mwy o Newyddion
Cofio hedd, nid cledd - Pererindod Heddwch Gogledd Cymru
Cofio un o orymdeithiau heddwch mwyaf y ganrif ddwytha fydd pobl ym Mhenygroes ddydd Gwener, 27 Mai.
90 mlynedd yn ôl i'r union ddiwrnod hwn, daeth 2,000 o wragedd gan fwyaf i Faes y Farchnad, Penygroes i gychwyn Pererindod Heddwch Gogledd Cymru.
Daethant o bentrefi Dyffryn Nantlle i ddymuno'n dda i'r rhai oedd yn cerdded ymlaen i Fangor ac yna i Gaer.
Oddi yno, roeddent yn ymuno â'r bererindod oedd yn mynd yn ei blaen i Hyde Park yn Llundain (erbyn Mehefin 19).
“Mae'n hanes rhyfeddol,” meddai Angharad Tomos, aelod o Ddyffryn Nantlle 2020,
“Wyth mlynedd wedi y Rhyfel Mawr, mae merched yn trefnu eu hunain i ffurfio Pererindod Heddwch.
"Eu galwad oedd ar i lywodraethau'r dydd setlo pethau drwy drafod, yn hytrach na thrwy rym arfau. Crisialwyd hyn yn dwt yn y slogan ar eu baner, 'Hedd Nid Cledd'.”
I nodi'r achlysur, mae baner newydd gyda'r geiriau hyn wedi ei gwneud yn arbennig.
Am 1.00pm bnawn Gwener, 27 Mai, bydd llechen i nodi'r digwyddiad yn cael ei ddadorchuddio a bydd plant o ysgol y pentref yn cymryd rhan.
Bydd Karen Owen, y bardd o Benygroes yn siarad, Anna Jane o'r mudiad heddwch, ac Annie Williams, hanesydd sydd wedi ysgrifennu am y Bererindod Heddwch.
“Mae cymaint wedi ei wneud i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Mawr,” meddai Angharad, “ac mae hynny yn bwysig.
"Ond yr un mor bwysig yw'r ymdrechion wnaed dros heddwch.
"Diddorol yw nodi mai merched oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.
"Un o'r merched oedd yn trefnu oedd Mary Silyn Roberts, gwraig un o feirdd cadeiriol mwyaf Dyffryn Nantlle.
"Roedd hi'n un o'r siaradwyr yn y rali yn Hyde Park, gwnaeth hynny yn Gymraeg, a chanwyd emynau Cymraeg.
"Rydym yn cofio hyn heddiw gan fod yr alwad 'Hedd Nid Cledd' yr un mor berthnasol.
"Yn wir, mae'n fwy perthnasol nag erioed, a dyna pam mae'n bwysig cael cenhedlaeth yfory yn rhan o'r cofio.”
Llun: Angharad Tomos