Mwy o Newyddion
Cofio’r cyn-fyfyriwr a’r bardd Gwilym Williams
Bydd Hefin Wyn M.A., un o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth, yn arwain digwyddiad i gofio ei hen ewythr, y bardd Gwilym Williams B.A., a raddiodd yn y Gymraeg ym 1913 ac a enillodd nifer o gadeiriau eisteddfodol, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol ym 1912, o dan feirniadaeth T. Gwynn Jones, ar ddydd Mercher 18 Mai am 3 o’r gloch yn Ystafell Seddon, Yr Hen Goleg, Aberystwyth.
Cynhelir yr achlysur ymron gan mlynedd i’r diwrnod y cafodd y bardd ifanc ei ladd yn 26 oed.
Bydd arddangosfa o fywyd a gwaith Gwilym Williams yn cyd-fynd â’r digwyddiad, gan gynnwys Cadair Eisteddfod y Brifysgol 1912.
Mae’r Gadair ynghyd â llun o’r Is-gapten Gwilym Williams a llythyrau o’i eiddo yn cael eu cyflwyno i ofal y brifysgol gan ei deulu.
Bydd staff a myfyrwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn darllen detholiad o gerddi Gwilym Williams o’r gyfrol goffa Dan yr Helyg (1917), ynghyd â cherddi newydd a ysbrydolwyd gan stori’r cyn-fyfyriwr.
Gwilym Williams
Nid Hedd Wyn oedd yr unig fardd o Gymro i gael ei ladd yn ystod y Rhyfel Mawr.
Ganed Gwilym Williams ar aelwyd Nant-yr-afr Fawr, Tre-lech a’r Betws, yn un o saith o blant Esther a William Williams: Esther Anne, Mary, Sophia, James, John, ac Eleanor (a raddiodd mewn Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth).
Ymunodd â’r Ffiwsilwyr Cymreig ym mis Gorffennaf 1915 er nad oedd gorfodaeth arno i wneud hynny ac, yn wir, roedd ei benderfyniad yn syndod i’w deulu am eu bod o’r farn iddo arddangos tueddiadau pasiffistaidd. Lladdwyd Gwilym Williams yn y ffosydd yn Ffrainc fis Mai 1916 ac fe’i claddwyd ym mynwent Merville.
Un o’r rhai a fu’n galaru amdano oedd ei gyfeilles, Jane Helen Rowlands o Borthaethwy a fu’n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Bangor ac a gysegrodd ei bywyd i waith cenhadol. Daeth yn ysgolhaig Bengali adnabyddus hefyd.
Mae llythyrau sydd ym meddiant y teulu yn tystio i’r berthynas glos rhwng y ddau wedi iddynt gyfarfod fel aelodau o staff Ysgol Ganolraddol Y Drenewydd. Yn wir, cred Hefin Wyn fod a wnelo penderfyniad Helen Rowlands i fynd yn genhades â phenderfyniad annisgwyl Gwilym i wirfoddoli i ryfela.
yng ngeiriau Hefin Wyn: “Arferai ‘Helen o Fôn’, fel y’i hadwaenid, anfon llythyrau o Assam at y teulu bob mis Mai am flynyddoedd wedi marwolaeth Gwilym yn sôn am ei serchiadau tuag ato. ‘Dyma’r bachgen mwyaf pur ei galon a adnabum erioed’ meddai mewn un llythyr. Rhaid dod i’r casgliad mai calon ddrylliedig oedd wedi anfon Wncwl Gwilym i faes y gad. Roedd ei englyn ffarwel i’w gariad yn brawf o’r ing a deimlai, -
Draw i randir yr India – mae Helen
Am hwylio o Walia;
O’n golwg ni. O gwylia
Hi dros y dŵr, Iesu da.”
Cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth Gwilym Williams, Dan yr Helyg ym 1917. Cyfrol goffa swmpus yw hi yn cynnwys gasgliad o gerddi a rhyddiaith Gwilym Williams yn ogystal â nifer o englynion gan ei frawd, John.
Cynhwysa’r gyfrol bryddestau buddugol Gwilym, sef ‘Gwanwyn Bywyd’ (Eisteddfod Coleg y Brifysgol, Aberystwyth 1912); ‘Swynion Anian’ (Eisteddfod Cwmduad, Rhagfyr 1913); ‘Gelynion Cymru Fydd’ (Eisteddfod Tabernacl, Caerfyrddin, Calan 1914); ‘Cario’r Groes’ (Eisteddfod Beulah, Ceredigion, Pasg 1914) yn ogystal ag ysgrif, ‘Natur fel cyfrwng diwylliant’.
Ceir yn y gyfrol ddetholiad o gerddi coffa gan J. Brynach Davies ac S. O. Thomas, Treparce, Tre-lech, a lluniwyd y rhagair gan Elfed, gweinidog Capel Tabernacl, Kings Cross, Llundain ar y pryd.
I bob pwrpas fe gyfansoddodd Gwilym Williams ei englyn beddargraff ei hun:
Aeth o’i ing i fwth ango’, – i wely
Y milwr i huno;
Heb rodres wedi’r brwydro
Erys â chroes uwch ei ro.