Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Mai 2016

Cyngor Gwynedd yn ethol Eric Jones yn gadeirydd

Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ddoe, etholwyd y Cynghorydd Eric Merfyn Jones (Y Groeslon) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, gyda’r Cynghorydd Annwen Daniels (Bowydd a Rhiw – Blaenau Ffestiniog) yn Is-Gadeirydd.

Yn Gynghorydd Gwynedd ers sawl blwyddyn, ac yn ddi-dor ers 2008, mae’r Cynghorydd Eric Jones hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau a sawl pwyllgor arall yn ei ddydd. 

Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Jones: “Braint ac anrhydedd yw cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd.

"Fe wnaf fy ngorau i wasanaethu holl drigolion Gwynedd yn ystod fy mlwyddyn yn y Gadair.”

Etholwyd y Cynghorydd Annwen Daniels sy’n aelod dros ward Bowydd a Rhiw yn ardal Blaenau Ffestiniog yn Is-Gadeirydd y Cyngor.

 

Rhannu |