Mwy o Newyddion

RSS Icon
10 Mehefin 2011

Swyddfa Arloesedd Cymru i agor yn Silicon Valley

Mewn cam a fydd yn gwthio cwmnïau arloesol Cymru i galon marchnad cyfalaf menter yr Unol Daleithiau, mae Prifysgol Cymru wedi agor swyddfa yn San Jose, ‘prifddinas’ hunanhonedig Silicon Valley.

Mae’r Irish Innovation Centre (IIC), sefydliad sy’n lansio busnesau Gwyddelig newydd yn Silicon Valley wedi gwahodd Prifysgol Cymru i ymsefydlu o fewn y ganolfan gan dalu teyrnged i etifeddiaeth Geltaidd ac ysbryd entrepreneuraidd gyffredin.

Ynghyd â’i sefydliad cyswllt, Irish Technology Leadership Group (ITLG), mae’r Ganolfan yn cynnig cyfoeth o adnoddau i gwmnïau technoleg sy’n gwneud y trawsnewid anodd ar draws yr Iwerydd, yn cynnwys swyddfeydd, cymorth cyfreithiol a gweinyddol, adnoddau cynadledda, a chefnogaeth cyfryngau/cysylltiadau cyhoeddus.

Bydd rhwydwaith cefnogi’r IIC, ynghyd â’i leoliad yn Silicon Valley, yn cynnig llu o gyfleoedd i gwmnïau Cymraeg sy’n dymuno treiddio i farchnad yr Unol Daleithiau. Mae’n bosib y gall sefydlu canolfan entrepreneuraidd Gymreig yn yr ardal wneud yr Unol Daleithiau’n lle llai gelyniaethus neu beryglus i fuddsoddwyr a phobl fusnes o Gymru, gan amrywio a chyffroi economi Cymru.

Fe wnaeth cysyniad yr IIC argraff ar yr Athro Dylan Jones-Evans, Cyfarwyddwr Menter ac Arloesedd Prifysgol Cymru, pan glywodd amdano gyntaf, ac roedd yn credu y dylai Cymru gael sefydliad cyfwerth, a dyna’n union beth y mae wedi ceisio ei sefydlu.

Dywedodd yr Athro Jones-Evans: “Bydd yn swyddfa i Gymru, i fusnes Cymru ac i gwmnïau uwch-dechnoleg sydd eisiau presenoldeb yn Silicon Valley. Ein nod yw cael troedle i Gymru yn yr ardal trwy weithio’n agos gyda’r Irish Innovation Centre i helpu ychydig o gwmnïau i fynd draw yno a gweld sut mae pethau’n gweithio. Os fyddwn ni’n llwyddiannus, yna efallai y bydd hi’n bosib atgynhyrchu’r cysyniad i gwmnïau o Gymru.”

Yn y bôn, rôl Prifysgol Cymru fydd darparu swyddfa i gwmnïau o Gymru sy’n teimlo eu bod yn barod i gyflwyno’u technoleg arloesedd i fuddsoddwyr posib yn Silicon Valley, gan fanteisio ar yr amgylchiadau economaidd ffafriol y mae’r IIC yn eu cynnig i gwmnïau sydd wedi lleoli yno eisoes.

Mae’r Athro Jones-Evans yn barod iawn i gydnabod y rôl bwysig y mae sefydliadau fel yr IIC yn ei chwarae yn hyrwyddo arloesedd.

Ychwanegodd: “Mae’n hollol hanfodol i gael cysylltiadau o fewn Silicon Valley gan na fydd gan lawer o gwmnïau brofiad o’r amgylchedd sy’n gyfrifol am y ganolfan arloesedd hon neu, yn bwysicach, y rhwydweithiau sydd eu hangen arnoch i gyrraedd unrhyw le yn y fath ecosystem arloesedd.”

Roedd John Hartnett, sylfaenydd yr IIC a phrif weithredwr ITLG, yn croesawu penderfyniad Prifysgol Cymru i leoli swyddfa yn Silicon Valley.

Meddai: ”Mae cysylltu cwmnïau technoleg o Gymru gyda Silicon Valley yn hanfodol i sbarduno arloesedd Cymru. Mae Silicon Valley yn gartref i gwmnïau technoleg mwya’r byd yn ogystal â bod yn brif leoliad ar gyfer cyllid cyfalaf menter ble mae dros 40% o holl fuddsoddiad cyfalaf menter yr Unol Daleithiau’n cael ei weithredu - mae Cymru bellach yn rhan o hyn gyda menter Prifysgol Cymru’n sefydlu troedle iddi ei hun yng nghanol San Jose.”

Dywedodd Syr Terry Matthews, yr entrepreneur technoleg uchel a anwyd yng Nghasnewydd: "Mae San Jose a gweddill Dyffryn Silicon yn parhau’n fan lle ceir nifer uchel o gwmnïau technoleg uchel a chyfalafwyr menter.

"Bydd Swyddfa Arloesi newydd Cymru yn fantais bendant i unrhyw gwmni newydd sy’n dymuno mynd i’r farchnad i ganfod cyfleoedd gwerthiant neu fynediad at ffynonellau o gyfalaf. Rwyf i’n llongyfarch y tîm ar y fenter hon.”

Dywedodd Phil Cooper, Rheolwr Gyfarwyddwr Venture Wales, sefydliad cefnogi busnes: “Llongyfarchiadau i Brifysgol Cymru. Mae’r fenter hon yn cynnig adnodd gwych i gwmnïau o Gymru sy’n ystyried eu strategaeth mynediad i’r farchnad gyfoethocaf yn y byd.

"Mae’r dull clwstwr technoleg o weithredu’n gwella cystadleuaeth ymysg cwmnïau Cymru trwy ddatblygu rhwydwaith diwydiant cymwys gyda chefnogaeth amryw o wasanaethau cynnal lleol yn yr Unol Daleithiau sy’n gallu hwyluso’r broses rhyngwladoli. Mae hefyd yn codi safonau trwy ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau o Gymru fod yn fwy cystadleuol yn rhyngwladol. Dymunaf bob llwyddiant i’r fenter.”

Rhannu |