Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mai 2016

Hufenfa De Arfon yn agor eu huned cynhyrchu caws newydd

Mae Hufenfa De Arfon wedi agor ei huned gwneud caws newydd a cynhyrchwyd caws am y tro cyntaf wythnos diwethaf. 

Mae’r adeilad newydd, ar safle’r Hufenfa yn Chwilog ger Pwllheli, yn darparu cyfleuster cynhyrchu caws effeithlon, modern a hyblyg a fydd yn galluogi’r gydweithfa ffermwyr i gynyddu ei medr cynhyrchu o 9,500 tunnell i 12,000 tunnell o gaws y flwyddyn.

Dyma’r uned gwneud caws mawr newydd cyntaf sydd wedi ei hadeiladau ym Mhrydain er 40 mlynedd ac mae’r buddsoddiad yn gwrthgyferbynnu gyda phatrymau presennol diwydiant llaeth Prydain.

Dywed adroddiad gan ymgynghorwyr amaethyddol, Promar International mai diwydiant llaeth Prydain sydd yn buddsoddi’r lefel isaf o gymharu â 6 o wledydd mwyaf Ewrop sy’n allforio.

Mae uned gwneud caws newydd yr Hufenfa wedi ei chwmpasu yn un a bydd yn gwella effeithlonrwydd gweithredol y gydweithfa.

O dro, bydd yr uned newydd yn galluogi mwy o hyblygrwydd cynhyrchu ac yn galluogi’r Hufenfa i gynhyrchu mathau gwahanol o gawsiau i anghenion penodol cwsmeriaid.

Yn ogystal bydd yn ei galluogi creu cynhyrchion arloesol i gwsmeriaid ac i frand Dragon yr Hufenfa.

Dywedodd Alan Wyn Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Hufenfa De Arfon: “Er ei bod yn gyfnod anodd iawn i gynhyrchwyr llaeth a phroseswyr, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i fuddsoddi yn y dyfodol.

“Mae’r ffatri gaws newydd yn darparu cyfleuster cynhyrchu gorau yn ei dosbarth i ni, a bydd yn cefnogi ein strategaeth twf ymhellach, gyda chwsmeriaid presennol a newydd. 

"Ein nod nawr yw prosesu i lawn medr y ffatri newydd gynted â phosib a byddwn yn gwneud hynny ar y cyd efo’n cwsmeriaid ac ein rhaglen cynnyrch newydd.

"Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym hefyd wedi recriwtio nifer o ffermwyr Cymreig yn aelodau yn barod ar gyfer yr uned cynhyrchu newydd.”

Yn ogystal â diogelu 100 o swyddi presennol, mae’r buddsoddiad hefyd o fantais i’r gymuned leol gyda’r cytundeb adeiladau wedi ei rhoi yn nwylo cwmni lleol, Derwen Llyn o Bwllheli. 

Mae Hufenfa De Arfon yn eiddo i 125 o ffermwyr Cymreig sy’n aelodau ac yn cyflenwi llaeth.

Dywedodd un o’r aelodau John Gwynant Hughes, Ynysgain Fawr, Criccieth: “Rydym yn falch o fod yn aelodau sy’n cyflenwi llaeth ac yn perchnogion o HDA. 

"Rydym yn falch bod y busnes yn meddwl ymlaen ac yn buddsoddi yn ein dyfodol ac mae hynny yn rhoi hyder i ni fel ffermwyr llaeth mewn amser sy’n anodd iawn."

Os yw’r cwmni yn llwyddo gyda’i thargedau twf, yna disgwylir i ail ran y buddsoddiad fod yn agored mewn ychydig flynyddoedd i gynyddu cynhyrchiant caws i 17,000 tunnell y flwyddyn

Bydd yr uned cynhyrchu caws newydd yn cael ei hagor yn swyddogol yn ystod haf 2016.

Rhannu |