Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mai 2016

Cogydd talentog o Lanelltyd yn cael ei ysbrydoli gan flasau o Tuscany

MAE cogydd talentog o Lanelltyd sydd wedi bod yn hyfforddi yn yr Eidal wedi cael ei ysbrydoli gan flasau o Tuscany.

Mae Harry Gallop 20 oed, sy'n gweithio fel prif gogydd yn y bwyty yng Nghoes Faen Spa Lodge B&B ar Aber Mawddach tu allan i Abermaw, wedi ymweld â'r cyfandir i hyrwyddo a datblygu sgiliau pellach a seigiau newydd ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr â'r ardal i brofi.

Yn dilyn ei daith i’r Eidal, mae Harry bellach yn ôl ym Meirionnydd yn gweithio ar flasau ffres o gelato (hufen iâ a sorbet) ar ôl cael ei gyflwyno i fersiwn lemwn sawrus a saets tra yn Badio, ystâd gwneud gwin a bwyty Coltibuono, cyn mynachlog yng nghalon gwlad Chianti.

"Roedd y lemwn yn ffres o'r ardd a'r prif gogydd wedi casglu'r perlysiau ar ei ffordd i'r gwaith," medd Harry’n frwdfrydig, a aeth i Ysgol y Gader, Dolgellau, cyn cwblhau cymwysterau arlwyo yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn y dref.

"Es i Coltibuono, yn Badia, oherwydd ein bod yn gweini eu gwinoedd yma yng Nghoes Faen.

"Mae dau o’r cogyddion Tysganaidd roeddwn yn gweithio gyda yn awr yn cynllunio i ymweld â ni drosodd yma, a bydda i'n mynd yn ôl yno nes ymlaen yn y flwyddyn am wythnos," ychwanegodd y cogydd ifanc.

Yn siaradwr Cymraeg, gwnaeth Harry ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn y rhwystr iaith a chyfnewid syniadau.

"Rydym yn gwneud pasta â llaw yma tra eu bod hwy yn defnyddio peiriant, gwnaeth hynny eu synnu," ychwanegodd.

"Mae'r gegin yn amlwg yn gweithredu mewn Eidaleg, ond rydym yn dal i lwyddo i rannu rhai technegau gwahanol.

"Er enghraifft, roeddwn yn gallu dangos un o'r cogyddion sut i wneud macarŵns.

"Rydw i'n edrych ymlaen at gyfnewid ychydig mwy o syniadau a dangos ein cyfleusterau newydd yma yn ein bwyty pan fyddant yn dod i ymweld!"

Dywedodd Sara Parry-Jones, sy'n berchen ar Coes Faen Spa Lodge B&B gyda'i phartner Richard: "Rydym yn ffodus iawn i gael cysylltiadau â bwytai a chynhyrchwyr gwin yn Tuscany sydd mor hael o'u hamser a'u harbenigedd, ac sydd â diddordeb yn yr hyn rydym wedi creu yma gwe Aber Mawddach."

Rhannu |