Mwy o Newyddion
Peter yn helpu eraill i siarad ar ôl colli eu laryncs yn sgil canser
Mae cyn beiriannydd a gollodd ei laryncs i ganser yn helpu eraill sy'n wynebu’r un llawdriniaeth i ddysgu sut i siarad eto.
Mae Peter Holloway yn rhedeg Clwb Laryngetomi Gogledd Cymru, sy'n cwnsela a chefnogi'r rhai sy'n wynebu'r driniaeth drawmatig.
Bu'r gŵr 70 oed o Fae Penrhyn yn dioddef o diwmor canseraidd ar ei laryncs, a derbyniodd driniaeth yn y Ganolfan Trin Canser yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan naw mlynedd yn ôl.
Tynnodd y llawfeddygon ei laryncs, a orfododd iddo ddysgu siarad mewn ffordd wahanol, gan dynnu aer i mewn drwy ei gorn gwddf.
Mae nyrsys a llawfeddygon arbenigol nawr yn ei wahodd i rannu ei brofiadau gyda chleifion sydd ar fin derbyn yr un llawdriniaeth gymhleth a'u helpu i dawelu eu meddyliau.
Meddai: "Yn bendant, mae'n gyfnod ofnus iawn a bydd pobl yn bryderus dros ben o ran yr hyn sy'n mynd i ddigwydd. Byddaf yn mynd i mewn, os bydd cleifion am i mi wneud, a cheisio siarad â nhw am y camau, fel eu bod yn gweld nad yw'n ddu i gyd.
"Rwyf newydd fod i weld dyn 83 oed sydd yn mynd i gael laryngectomi. Rwyf wedi esbonio'r hyn i'w ddisgwyl a phan adawais, roedd o'n llawer iawn mwy cadarnhaol a thawelach ei feddwl o ran y llawdriniaeth.
"Bydd pobl yn meddwl am farwolaeth yn syth wrth glywed y gair canser, ond nid yw hyn yn wir. Roedd y driniaeth a gefais yng Nglan Clwyd dan law Mr Hammad fy ymgynghorydd yn anhygoel, ac rwy'n gwybod fod aelodau eraill wedi cael triniaeth benigamp gan Mr Zeitoun y llawfeddyg CTG.
"Roedd popeth yn wych o'r nyrsys i'r llawfeddygon, therapyddion iaith a'r pecyn ôl-ofal cyfan. Nid oedd dim yn ormod o drafferth ac rydym yn bendant yn hynodd ffodus i fod â chanolfan ganser wych yn gwasanaethu gogledd Cymru."
Daeth Peter, sydd hefyd yn chwarae'r drymiau gyda Band Swing Llandudno, yn gadeirydd y Clwb Laryngetomi wyth mlynedd yn ôl yn ystod cyfnod pan mai dim ond 4 aelod oedd yn perthyn, bellach mae 24.
Meddai: "Rydym yn cyfarfod bob chwe wythnos yng Ngwesty'r Faenol Fawr, drws nesaf i Ysbyty Glan Clwyd.
"Rydym yn trio cynnig cefnogaeth ac mae'n ffordd wych i bobl sydd wedi cael laryngectomi i gwrdd, gyda neu heb eu partneriaid, gwŷr a gwragedd. Byddwn yn cael siaradwyr gwadd, ond yn bennaf, mae'n ffordd o gymdeithasu, cydymdeimlo a chynnig cefnogaeth."
Ychwanegodd Peter, a anwyd yn Glossop, ond bellach yn byw yng ngogledd Cymru ers 16 mlynedd gyda'i briod ers 36 mlynedd, Dorothy: "Ni ddylai unrhyw un sy'n cael laryngectomi deimlo ei fod ar ben ei hun neu nad yw bywyd yn werth i'w fyw.
"Ni allwch adael i ganser eich trechu, ac os ydych yn aelod o Glwb Laryngectomi Glan Clwyd, rydym yn benderfynol nad ydym yn rhoi'r ffidil yn y to!"
Bydd Liz Thomas, Therapydd Iaith a Lleferydd yn Ysbyty Glan Clwyd hefyd yn mynychu cyfarfodydd y Clwb Laryngectomi ac wrth law bob amser i gynnig cymorth a chefnogaeth.
Meddai: "Mae bron iawn bob claf sy'n gorfod cael laryngectomi oherwydd canser neu salwch sy'n gysylltiedig â chanser. Mae tynnu'r laryncs yn golygu bod raid i glaf ddysgu siarad mewn ffordd wahanol.
"Bydd rhai fel Peter yn llwyddo i ddysgu drwy leferydd esoffagaidd, sy'n golygu yn syml, symud aer o'r geg a'i gael i ffurfio dirgryniad ar lefel esoffagaidd a ddefnyddir fel llais.
Nid yw hyn yn bosibl i rai pobl, felly byddant yn defnyddio electrolaryncs, dyfais feddygol a ddalir wrth y gwddf sy'n cynhyrchu'r dirgryniadau byddai'r laryncs yn ei wneud yn flaenorol. Mae'n galluogi i sŵn gael ei chwyddo fel bod modd clywed lleferydd."
Ychwanegodd: "Mae gallu cyfathrebu a siarad yn hanfodol er lles cleifion canser sydd wedi cael tynnu'r laryncs. Mae dod i'r cyfarfodydd a chynnig cefnogaeth, ynghyd â'r hyn rwy'n ei wneud yn yr ysbyty yn rhan o fy swydd.
"Mae Canolfan Trin Canser Glan Clwyd yn cydnabod pwysigrwydd a'r angen am rywun fel Peter i ddod i mewn i siarad â chleifion sydd am ei weld, fel ei fod yn gallu tawelu eu meddyliau ynghylch y sefyllfa.
"Nid yw Peter erioed wedi gadael i ganser reoli ei fywyd; mae o mor gadarnhaol er gwaethaf y newidiadau mawr i'w amgylchiadau personol yn sgil cael laryngectomi."
Cafodd Colin Clifford Jones, 65 o Gaergybi ddiagnosis o ganser y thyroid a'r laryncs yn Awst 2015 a dywedodd iddo gael triniaeth wych yng Nghanolfan Ganser Glan Clwyd.
Meddai: "Mi wnaethant achub fy mywyd ac roeddent mor annwyl. Ni allaf weld bai ar unrhyw agwedd o fy nhriniaeth. Roedd pawb yn rhagorol, a newidiais o fod yn rhywun heb unrhyw obaith i fod yn rhywun â modd i fyw.
"Daeth Peter, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd y Clwb Laryngctomi, i fy ngweld cyn fy llawdriniaeth. Gofynnwyd a hoffwn ei weld a chytunais gan i mi feddwl efallai byddai o gymorth.
"Dywedodd wrthyf fod bywyd ar ôl canser a pha mor bwysig yw meddwl yn bositif. Gwnaeth i mi sylweddoli nad oedd hyn yn ddiwedd y byd."
Mae Colin, a arferai weithio yn Alwminiwm Môn, nawr yn siarad gyda chymorth electrolaryncs.
Meddai: "Mae gallu siarad yn gwneud cymaint o wahaniaeth. Mae pobl yn edrych yn hurt arnaf; dw i ddim gwahanol i unrhyw un arall, gan ein bod yn swnio fel robotiaid, ond bydd pobl yn arfer yn sydyn iawn. Dw i wedi hen arfer bellach, ac nid yw'n poeni dim arnaf."
Cafodd Lynn Morrisey, 62, gofalwraig o Abermaw, ddiagnosis canser y gwddf a'r oesoffagws yn Rhagfyr 2014 a chafodd lawdriniaeth 15 awr yn Ysbyty Glan Clwyd i dynnu ei laryncs.
Nawr mae hi'n siarad gyda chymorth electrolaryncs, a dywedodd: "Roedd y gofal a gefais yng Nglan Clwyd yn wych. Mi wnaethant achub fy mywyd.
"Hwn oedd yr ail dro i mi gael diagnosis o ganser, wedi i mi gael triniaeth ar gyfer canser y thyroid 29 mlynedd yn ôl.
"Roedd y llawdriniaeth ar gyfer canser y gwddf, a ymgymerwyd gan bum llawfeddyg, yn cynnwys laryngectomi, ond roedd yn llawer mwy cymhleth na hyn, oherwydd bu raid iddynt ail-greu gwddf i mi.
"Codwyd fy stumog hefyd a chymerwyd cyhyrau a chroen oddi ar fy nghlun i helpu ail-greu fy ngwddf."
"Roeddwn i'n glaf yn Ysbyty Glan Clwyd am fwy na mis ac yn hwyrach ymlaen cefais fy nerbyn i Ysbyty Maelor Wrecsam am dair wythnos oherwydd fy mod yn colli pwysau ac am na allwn i fwyta."
Ychwanegodd: Gofynnwyd i mi a oeddwn i eisiau gweld Peter cyn y laryngectomi, ond penderfynais nad oeddwn. Ar y pryd, roeddwn yn teimlo fy mod yn wynebu un broblem ar ôl y llall ac ni allwn wynebu gweld unrhyw un heblaw fy nheulu.
"Fodd bynnag, ar ôl y llawdriniaeth, daeth Peter i'm gweld a rhoddodd fwy o hyder i mi, gwnaeth i mi sylweddoli y gallwn ddysgu siarad eto, er fy mod yn dal i weld hyn yn anodd.
"Dim ond un cyfarfod o Glwb Laryngectomi Glan Clwyd rwyf i wedi mynychu, ond byddaf yn dod i fwy o gyfarfodydd os byddaf yn gallu. Mae'n anodd gan ein bod yn gofalu am fy mam sy'n 92 oed."
Dywedodd Kevin Morrisey, gŵr Lynn fod y driniaeth a dderbyniodd ei wraig yng Nglan Clwyd wedi bod yn anhygoel, ac yn bendant wedi achub ei bywyd.
Meddai: "Ni allaf ganmol yr ysbyty ddigon. Mae Lynn yn defnyddio electrolaryncs sy'n rhoi ychydig o leferydd iddi, ond mae'n anodd iddi. Roeddem yn defnyddio 'Boogie Board' ar y dechrau, sy'n debyg iawn i degan Etch a Sketch.
"Gellwch ysgrifennu geiriau ar yr wyneb, yna drwy bwyso botwm, byddant yn diflannu oddi ar y sgrîn. Fe wnaethom eu darganfod ar y rhyngrwyd, ac ar ôl i ni ddechrau ei ddefnyddio ar y ward, roedd pawb eisiau un. O ganlyniad, archebodd yr ysbyty lwyth ohonynt."
Cafodd William Griffiths, 75, o Dreffynnon, ddiagnosis o ganser y laryncs yn 2013, a chafodd ei laryngectomi yn Ysbyty Glan Clwyd.
Meddai: "Pan fydd yr ymgynghorwr yn eistedd gyda chi a'ch gwraig a thorri'r newyddion eich bod â chanser, mae'n ddychrynllyd. Mae'n debyg nad oes ffordd hawdd i wneud hyn.
"Fodd bynnag, roedd y driniaeth a gefais yn wych, a byddwch yn sylweddoli'n eithaf sydyn mai'r unig ffordd i fynd yw bod yn gadarnhaol.
"Ni allwn weld bai ar unrhyw agwedd y cefais fy nhrin; mae cael cymaint o gefnogaeth yn ei gwneud hi'n llawer rhwyddach i wynebu canser.
"Mi wnes i ddysgu siarad gan ddefnyddio lleferydd esoffageal, felly nid oes gen i electrolaryncs. Mae'n llawer iawn gwell na gorfod ysgrifennu popeth neu feimio."
Ychwanegodd William: Mae'r Clwb Laryngectomi yn wych. Rydym yn cael siaradwr gwadd ac mae ochr gymdeithasol wych i'r clwb.
"Mae'n hollol angenrheidiol, cael cyfarfod â phobl sydd wedi wynebu'r un peth â mi, wedi cael yr un llawdriniaeth ac yn wynebu'r un problemau. Mae'n werth chweil, ac mae Peter yn gwneud gwaith gwych fel cadeirydd ac Ann a Cliff Owen ar y cyd fel ysgrifenyddion."
Bydd cyfarfod nesaf Clwb Laryngectomi Glan Clwyd, ddydd Iau 28 Ebrill am 11am yng Ngwesty'r Faenol Fawr.
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Peter Holloway ar 01492 544167.
Llun: Tom Woods a Peter Holloway