Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mai 2016

Noson Etholiad 2016 ar S4C

Fe fydd S4C yn cynnig gwasanaeth difyr ar noson Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Ar ddiwrnod y bleidlais fory fe fydd tîm Etholiad 2016 yn dilyn holl ddrama’r canlyniadau o 10.00 y nos Iau, 5 Mai hyd oriau mân bore Gwener, 6 Mai nes bod yr holl ganlyniadau wedi eu cyhoeddi.

Tîm Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru fydd yn cynhyrchu Etholiad Cymru 2016, ynghyd â’r rhaglen Newyddion estynedig nos Wener am 9.OOpm.

Yn arwain y tîm bydd y cyflwynydd Dewi Llwyd, gyda Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru,  Vaughan Roderick, y gohebydd Bethan Lewis a’r gohebydd Arwyn Jones, dadansoddwyr y canlyniadau gyda’r graffeg arloesol diweddaraf, a llu o ohebwyr a sylwebwyr ar hyd a lled y wlad - ac mi fydd digon i’w trafod ar noson Etholiad Cymru 2016.

Wedi’r cwbl, mae etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throsedd, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban, Cynulliad a Maer Llundain, Llywodraeth Leol Lloegr ac Etholiadau Maer i gyd yn mynd rhagddynt hefyd, gyda Refferendwm Ewrop ar y gorwel.

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu'r un pryd ar BBC Radio Cymru, yn dilyn llwyddiant darlledu cydamserol yr Etholiad Cyffredinol y llynedd. Bydd y newyddion diweddaraf a’r canlyniadau ar gael hefyd ar wefan BBC Cymru, Cymru Fyw.

Dywedodd, Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru: “Mae pob etholiad yn gyffrous ond mae hwn yn un hynod o anodd i broffwydo yn ei gylch gyda mwy nac un o’r pleidiau mewn trybini a’r cyfan yn cael ei gynnal o dan gysgod refferendwm Ewrop.

"Fe fydd y sylw y tro hwn yn bennaf ar yr etholaethau a gipiwyd gan y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol - llefydd fel Dyffryn Clwyd, Gwyr a Brycheiniog a Maesyfed. Ond  nid y rheiny yw’r unig seddi o ddiddordeb.

"Rwy’n cadw llygad yn arbennig ar etholaethau’r gogledd ddwyrain a dwy etholaeth sy’n troi fel ceiliog y gwynt - Llanelli ac Aberconwy.

“Oni cheir newid sylweddol yn  yr etholaethau gallwn fod yn weddol  sicr mai Llafur fydd yn arwain Llywodraeth nesaf Cymru ond fe fydd y canlyniadau rhanbarthol hefyd o ddiddordeb mawr.

"Yn y rhain y cawn weld a fydd llanw porffor Ukip yn llapio traed y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol  gan, o bosib, creu Cynulliad pum plaid am y tro cyntaf.”  

Rhannu |