Mwy o Newyddion
Cyllid ychwanegol i ysgolion cynradd
MAE Cynghorwyr Plaid Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol i ysgolion cynradd Gwynedd sy’n wynebu dosbarthiadau mwy eu maint ym mis Medi.
Cyhoeddodd Arweinydd Portffolio Cyllid Plaid Cymru, Y Cynghorydd Siân Gwenllian, yn y llun, y bydd £300,000 ar gael mewn Cronfa arbennig i gynorthwyo’r ysgolion rheiny sy’n cael trafferthion gyda gostyngiad yn eu cyllidebau oherwydd lleihad yn niferoedd disgyblion a mesurau effeithlonrwydd sydd wedi deillio o bolisiïau’r Llywodraeth Brydeinig.
“Mae nifer o’n hysgolion cynradd yn wynebu tasg anodd o leihau niferoedd staffio, a’r unig ffordd ymlaen yw cynyddu maint dosbarthiadau,” eglura’r Cynghorydd Gwenllian.
“Cred Cynghorwyr Plaid Cymru os yw dosbarth yn mynd yn rhy fawr neu bod nifer uchel o amrediad oed eang o fewn un dosbarth, y gall hyn osod rhai plant dan anfantais. Profwyd hyn mewn nifer o astudiaethau addysgol ac mae’n synnwyr cyffredin – sut all athrawon roi cefnogaeth a sylw i bob plentyn os yw maint y dosbarth yn rhy fawr?”
Mae Arweinydd Portffolio Ysgolion Plaid Cymru, Y Cynghorydd Liz Saville Roberts yn cefnogi’r cyhoeddiad.
Meddai: “Oherwydd lleihad mewn cyllidebau ysgolion, bydd rhai plant yn methu â chyrraedd eu llawn botensial yn y dosbarth. Bydd hyn yn deillio o’r ffaith y bydd nifer mwy o blant mewn dosbarthiadau yn ardaloedd tlotaf y sir, ac y bydd ysgolion canolig eu maint yn wynebu newidiadau mawr i’w strwythur staffio.
“Dwi’n bryderus y bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar lwyddiant addysgol plant yn ein hysgolion.
“Dyma’r neges dw i’n ei chlywed wrth drafod gyda Phenaethiaid Ysgolion, Llywodraethwyr a rhieni, ac rydw i’n falch iawn y bydd rhai ysgolion yn elwa o’r arian ychwanegol hwn i geisio lleddfu rhywfaint ar y problemau ym mis Medi 2011.
“Fel sir, rydym hefyd yn parchu addewid Llywodraeth y Cynulliad i amddiffyn cyllidebau ysgolion, ond ni theimlir yr effaith yn llawn hyd 2012.”
Yn ôl y Prifathro Ywain Myfyr, Cadeirydd Ffederasiwn Penaethiaid Cynradd Gwynedd: “Mae Cyngor Gwynedd, trwy’r awdurdod addysg, eisoes yn cyfrannu £600,000 yn flynyddol i sicrhau bod lefel digonol o staffio yn ysgolion lleiaf y sir.
“Fel Ffederasiwn, croesawn y symudiad gan y Cyngor i gyfrannu arian ychwanegol tuag at leihau maint dosbarthiadau yn yr ysgolion mwy eu maint, arian sy’n cael ei chyfateb gan yr ysgolion eu hunain.
“Mae toriadau blynyddol i gyllidebau’r grŵp yma o ysgolion wedi arwain at wneud dosbarthiadau mawr o blant yn beth cyffredin mewn ysgolion ar draws y sir. Mae cyllidebau ysgolion wedi eu torri i’r bôn a bydd yr arian yma yn mynd ychydig o’r ffordd i ysgafnhau’r baich ar ein hysgolion yn y dyddiau anodd yma.”