Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mai 2016

Llywydd newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru am weld Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo’i gyfrifoldeb

Ar gychwyn ei gyfnod fel Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae Rhodri Glyn Thomas wedi rhybuddio gwleidyddion, ac yn enwedig y rhai hynny fydd yn ffurfio llywodraeth nesaf Cymru, i barchu ein sefydliadau cenedlaethol a rhoi iddyn nhw’r adnoddau hanfodol sydd eu hangen er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni eu swyddogaethau dros bobl Cymru.

Meddai Rhodri Glyn Thomas yn ei sylwadau agoriadol i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell: “Mae angen i lywodraeth nesaf Cymru gydnabod pwysigrwydd a statws unigryw sefydliadau cenedlaethol, fel y Llyfrgell Genedlaethol trwy greu strategaeth sy’n eu galluogi i weithredu fel gwir sefydliadau cenedlaethol.

“Mae gan y Llyfrgell rôl tra phwysig i’w chwarae ym mywyd y genedl a rhaid iddi gael yr adnoddau i gyflawni ei dyletswyddau. Rhaid i’r Llywodraeth gydnabod ei chyfrifoldeb i gynnal y sefydliadu hyn a’u trafod ar wahân i’r rhai nad ydynt yn sefydliadau statudol.

“Er mwyn medru cynnal gwerthoedd craidd y Llyfrgell i gasglu, gwarchod a sicrhau bod diwylliant a hanes Cymru’n hygyrch i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn arbennig y rhai mewn rhannau difreintiedig o Gymru, rhaid i Lywodraeth Cymru cydnabod fod y Llyfrgell yn cyflawni rôl unigryw sy’n  amhrisiadwy.

“Mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi llwyddo i ddygymod a bron i ddegawd o doriadau, ond os bydd toriadau pellach bydd ei gallu i gyflawni ei swyddogaethau a’i chyfrifoldebau fel sefydliad cenedlaethol i’r genhedlaeth bresennol a’r rhai i ddod o dan fygythiad.

“Os yw Llywodraeth nesaf Cymru am gynnal eu sefydliadau cenedlaethol fel cyfranwyr cynhyrchiol ac egnïol  dros Gymru, mae angen strategaeth a chyllideb briodol i wneud hynny.”

Rhannu |