Mwy o Newyddion
Gwarchod adar prin Gronant rhag y cudyll coch – yr unig le yng Nghymru
Galwyd ar bobl i wirfoddoli i warchod adar prin sydd ond yn nythu yng Nghymru ar draeth yn Sir Ddinbych. Y fôr-wennol bach yw’r fôr-wennol leiaf ac un o’r rhai prinnaf sy’n dod yma o Affrica.
Yr wythnos hon mae Grŵp Môr-Wenoliaid Bychain Gogledd Cymru wedi bod yn gosod ffensys amddiffynnol i’w gwarchod ar draeth Gronant ger Prestatyn, yr unig nythfa Gymreig.
Mae niferoedd môr-wenoliaid bychain wedi bod yn lleihau ers y saithdegau am fod cynefin addas yn brin, bod dyn yn aflonyddu arnynt, llanw uchel a’u bod yn ysglyfaeth i gudyll coch. Er mwyn helpu i’w diogelu mae llawer o nythfeydd yn cael eu rheoli yn helaeth yng ngwledydd Prydain.
Maent yn hawdd i’w hadnabod oherwydd eu cynffonnau byr, talcen gwyn a phig melyn gyda blaen bach du. Mae’r môr-wenoliaid bychain yn dechrau cyrraedd yng nghanol mis Ebrill, i nythu ar draethau tywod neu raean, neu ynysoedd bychan ar y glannau o amgylch llawer o arfordir Prydain. Maent yn dychwelyd i Affrica ym mis Awst.
Gronant yw’r unig nythfa o fôr-wenoliaid bychain yng Nghymru. Oherwydd gwaith caled gwirfoddolwyr lleol, mae wedi datblygu i fod yn un o’r nythfeydd mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain.
Y llynedd, bu gwirfoddolwyr yn helpu Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych drwy fonitro adar sy’n magu, siarad am yr adar â defnyddwyr y traeth lleol, adeiladu ffensys amddiffynnol a dychryn adar ysglyfaethus. Rhoddodd y gwirfoddolwyr ymroddedig gannoedd o oriau i helpu cant o fôr-wenoliaid bychain i fagu plu ar y safle.
Yn 2015 yn unig, collwyd tri oedolyn, 33 o gywion ac wyth o adar ifanc i’r cudyll coch.
Yn ystod y tymor nythu eleni mae Cymdeithas Adara Cymru (WOS) yn darparu cyllid i geisio datrys y broblem hon drwy gyflenwi bwyd ar gyfer y cudyll coch, fel ffynhonnell fwyd arall yn lle’r môr-wenoliaid bychain.
Dywedodd Jack Slattery, swyddog ymgysylltu Pobl Môr-wenoliaid Bychain LIFE + ar gyfer Gronant: “Rydym yn falch iawn bod y Gymdeithas Adara wedi darparu cyllid ar gyfer y prosiect hwn oherwydd y cudyll coch yw un o’r bygythiadau mwyaf i fôr-wenoliaid bychain yng Ngronant.
“Rydym wedi penderfynu dechrau bwydo dargyfeiriol oherwydd bod llwyddiant dychryn y cudyll coch gan ddefnyddio pistolau cychwyn, cyrn aer a chwibanau yn gyfyngedig iawn.
“Rydym yn mwynhau gweld y cudyll coch, ond maent yn fygythiad mawr i fôr-wenoliaid bychain. Rydym yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn helpu’r ddwy rywogaeth i ffynnu.”
Llun: Y fôr-wennol bach