Mwy o Newyddion
Bwrdd prosiect wedi cwblhau’i adroddiad ar Bantycelyn
Mae Bwrdd Prosiect Pantycelyn, sy’n cydlynu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau ar gyfer darparu llety a gofod cymdeithasol dynodedig Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cwblhau ei adroddiad yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni rhwng Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry, a chynrychiolwyr y myfyrwyr yn ystod Mehefin 2015.
Mae'r adroddiad yn cynnwys briff dylunio ac argymhellion sy’n seiliedig ar astudiaeth annibynnol Old Bell 3 a chyngor penseiri. Fe’i cyflwynir yn y lle cyntaf i Bwyllgor Cyllid a Strategaeth y Brifysgol ar 27 Mai, ac wedyn i Gyngor y Brifysgol ar 29 Mehefin.
Bydd copi o'r adroddiad yn cael ei anfon at aelodau’r Pwyllgor Cyllid a Strategaeth ar 20 Mai a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Brifysgol ar yr un pryd.
Gwneir hyn yn unol â bwriad y Bwrdd Prosiect i weithredu mewn modd agored a thryloyw.
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i holl aelodau’r Bwrdd am eu hymroddiad i’r dasg bwysig hon ac am weithio’n galed i gwblhau’r adroddiad o fewn amserlen dynn.
"Edrychwn ymlaen yn awr at gyflwyno’r adroddiad i bwyllgorau’r Brifysgol ac yn benodol i Gyngor y Brifysgol ar 29 Mehefin.”
Dywedodd Hanna Merrigan, Llywydd UMCA ac aelod o’r Bwrdd Prosiect: “Mae’r adroddiad yn cwmpasu’r anghenion y mae UMCA wedi bod yn gofyn amdanynt ers amser, ac rwy’n diolch i’r Brifysgol am eu parodrwydd i weithio gyda ni a gwneud Pantycelyn yn flaenoriaeth drwy gwblhau’r adroddiad ar amser.”