Mwy o Newyddion
Telynor yn torri tir newydd
Mae cerddor rhyngwladol enwog sydd wedi chwarae ar gyfer y teulu brenhinol wedi rhyddhau albwm o’r addasiad cyntaf erioed ar gyfer y delyn o gyfansoddiadau piano Schubert.
Mab fferm o Bowys yw Ieuan Jones, a dechreuodd ei gariad at y delyn pan oedd yn chwech oed. Saith mlynedd yn ddiweddarach ef oedd yr aelod ieuengaf o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru.
Tra roedd yn dal yn fyfyriwr yng Ngholeg Cerdd Brenhinol enwog Llundain, cafodd ei ddewis i fod yn delynor preswyl yn Nhŷ’r Cyffredin yn Llundain. Ers hynny aeth ymlaen i wneud ymddangosiadau concerto gyda rhai o gerddorfeydd gorau’r byd.
Yn fuan ar ôl gadael y coleg, cafodd wahoddiad i roi perfformiad preifat ar y delyn i’r ddiweddar Fam Frenhines yn ei chartref yn Windsor. Yn gynharach eleni cyflwynodd Tywysog Cymru Gymrodoriaeth y Coleg Brenhinol iddo. Mae Ieuan yn Athro’r Delyn yn y coleg hwnnw.
Erbyn hyn mae Ieuan yn byw yn Battersea, Llundain, ac wedi cynhyrchu chwech albwm gyda’r olaf ohonynt yn cynnwys naw trac o waith Franz Schubert ar gyfer y piano. Ieuan ei hun sydd wedi trawsgrifio gwaith Schubert ar gyfer y delyn, i ddangos i gynulleidfa ehangach pa mor hyblyg yw’r offeryn, a dyma’r tro cyntaf i hyn gael ei wneud ar gyfer telynor sy’n chwarae ar ben ei hun.
Dechreuodd cenhadaeth Ieuan i greu cerddoriaeth brydferth pan oedd yn yr ysgol gynradd yn Llanfair Caereinion ger ei gartref, yn ystod ei blentyndod ym Mathrafal ger Meifod. Roedd athro cerdd teithiol yn ymweld â’r ysgol bryd hynny, a gwahoddodd Ieuan i roi cynnig ar y delyn.
Dyma ddywedodd: “Fel rhan o gynllun cerdd y cyngor sir roedd nifer o offerynnau bychan wedi dod i’r ysgol, oedd yn beth da iawn am nad oedd dim baich ar ein rhieni i’w prynu felly.
“Fe wnes i roi tro ar y piano, y cornet a’r trwmped ond un diwrnod dyma athrawes gerdd deithiol, Frances Mon Jones, yn a gofyn i mi a oeddwn eisiau rhoi cynnig ar y delyn.
“Roedd gen i atyniad ar unwaith tuag at y delyn, a dyma ddechrau fy mherthynas hir â’r offeryn.”
Pan oedd yn 13 oed fe ymunodd Ieuan gyda Cherddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a thair blynedd yn ddiweddarach daeth yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Prydain Fawr.
Gadawodd yr ysgol yn 18 oed ac ennill ysgoloriaeth i’r Coleg Cerdd Brenhinol adnabyddus yn Llundain. Yno cafodd ei ysbrydoli gan y delynores Sbaenaidd enwog Marisa Robles, a oedd yn athrawes preswyl y delyn ar yr adeg honno.
Dywedodd Ieuan: “Mae’n anodd iawn cael eich derbyn i’r coleg ond roeddwn i’n ddigon ffodus i allu gwneud hynny. Roedd yn gyflwyniad i mi ar gyfer lefel uwch o lawer o gerddoriaeth ac yn agor y drws i brofiadau llawer mwy.”
Cyflwynwyd y Bowlen Rosod i Ieuan gan y Fam Frenhines ei hun, ac yn fuan wedyn cafodd un o’i brofiadau mwyaf cofiadwy pan wahoddwyd ef i chwarae ar gyfer y Fam Frenhines yn ei chartref yn y Royal Lodge yn Windsor.
“Roeddwn i yno gyda’r actores, y ddiweddar Foneddiges Peggy Ashcroft, yn cyflwyno rhaglen o’r enw Rhamant, Realiti a Brenhiniaeth (‘Romance, Reality and Royalty’) lle'r oedd y gerddoriaeth a chwaraewyd gennyf fi wedi ei chysylltu gyda’r farddoniaeth yr oedd Dame Peggy yn ei hadrodd.
“Rwy’n cofio bod y Fam Frenhines yn ddynes ddymunol iawn, oedd yn cymryd diddordeb mawr mewn cerddoriaeth ac mewn pobl ifanc.
“Yn gynharach eleni cefais yr anrhydedd o gael Aelodaeth o’r Coleg Cerdd Brenhinol, lle rwyf wedi bod yn Athro’r Delyn ers 1997, a hynny wedi ei gyflwyno i mi gan Dywysog Cymru.
“Gofynnodd i mi a oedd mewn gwirionedd yn 30 mlynedd ers pan ddaeth ei nain i’r coleg i gyflwyno ei Phowlen Rosod i mi.”
Yn ystod ei yrfa broffesiynol ddisglair mae Ieuan wedi chwarae mewn dros 25 o wahanol wledydd, yn cynnwys yr Ariannin, Awstralia a Hong Kong, ac wedi ymddangos gyda rhai o brif gerddorfeydd y byd.
Mae wedi gwneud llawer o ymddangosiadau ym Mhrydain mewn mannau fel y Royal Albert Hall yn Llundain, y Bridgewater Hall ym Manceinion a Neuadd Dewi Sant. Roedd y rhaglenni’n cynnwys gwaith na fydd i’w glywed lawer ar y delyn, ac yn aml gydag offerynnau eraill fel y ffliwt, feiolin ac fel rhan o bedwarawdau telyn a llinynnol.
Mae ef hefyd yn aelod o Fwrdd Cysylltiedig yr Ysgol Gerdd Frenhinol (ABRSM) o arholwyr diploma, a bydd yn ymddangos yn rheolaidd ar banelau cystadlaethau rhyngwladol ym mhob rhan o’r byd.
Mae ei gynulleidfaoedd wedi cynnwys pobl frenhinol, llysgenhadon a phrif weinidogion.
Mewn gwirionedd, daeth yn gyfarwydd iawn gyda chwarae ar gyfer gwleidyddion yn y 13 mlynedd y bu’n delynor preswyl yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod yr 1980au a dechrau’r 1990au.
Eglurodd yr hanes fel hyn: “Un min nos pan oeddwn yn dal ar fy ail flwyddyn yn y coleg roeddwn yn chwarae’r delyn yng Ngwesty’r Carlton Tower yn Llundain, yn lle cyfaill nad oedd yn gallu bod yno. Daeth y diweddar Charles Irving, yr Aelod Seneddol dros Cheltenham, yno ac eistedd i wrando arnaf am oriau.
“Ar ôl i mi orffen daeth draw i siarad gyda mi. Dywedodd ei fod yn gadeirydd pwyllgor arlwyo Tŷ’r Cyffredin a gofynnod a allwn chwarae fy ngherddoriaeth yn ystafell fwyta Tŷ’r Cyffredin.
“Yn y pen draw, roeddwn i yno am 13 mlynedd, trwy gyfnod llywodraethau Thatcher a Major, ac roedd hynny o gymorth i mi yn ystod y blynyddoedd anodd cynnar o fod yn broffesiynol. Byddwn yn chwarae mewn digwyddiadau cinio preifat, a chael gweld llawer o wleidyddion enwog yr oes honno.”
Dros y blynyddoedd, mae Ieuan wedi recordio chwech albwm, gyda rhai ohonynt heb fod yn gerddoriaeth glasurol ond yn hytrach yn waith cyfansoddwyr modern fel Syr Elton John ac Ennio Morricone wedi eu haddasu ar gyfer y delyn.
Mae ei record ddiweddaraf, gyda’r teitl syml Schubert, yn cynnwys naw o draciau gan y cyfansoddwr Awstriaidd enwog Franz Schubert, wedi eu trawsgrifio’n hynod ofalus gan Ieuan o’r ffurf piano gwreiddiol ar gyfer y delyn.
Dywedodd Ieuan: “Rwyf wedi recordio’r albwm Schubert am y byddaf yn hoffi gwneud rhywbeth gwahanol ac rwyf eisiau dangos faint mae’r delyn wedi datblygu ers ei adeg ef yn yr 1880au pan na fyddai modd chwarae’r gwaith cymhleth hwn arni.
“Mae byd y delyn yn fyd bychan gyda dim ond dewis cyfyngedig o waith gwreiddiol. Ers i mi adael y coleg rwyf wedi ceisio gwthio’r ffiniau a chwarae math o gerddoriaeth na fyddech yn ei ddisgwyl ar y delyn.
“Doedd hi ddim yn hawdd gwneud hynny ond rwyf wedi trawsgrifio naw darn gan Schubert oedd wedi eu hysgrifennu’n wreiddiol ar gyfer y piano, am y tro cyntaf erioed ar gyfer telynor ar ei ben ei hunan.
“Yn gyffredinol, rwy’n ceisio cael ffordd esmwyth o ddod â cherddoriaeth glasurol i gynulleidfa ehangach yn hytrach na bod yn rhy uchel ael.
“Ar ôl yr albwm Schubert efallai byddaf yn gwneud rhywbeth arall gyda thrawsgrifio gwaith y cyfansoddwyr mawr a mynd â’u cerddoriaeth i fannau eraill. Rwyf yn credu ein bod ni angen mwy o hyn."
Mae ei albwm newydd, Schubert by Ieuan Jones, ar label Claudio, rhif catalog CR60322.