Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mai 2016

Cynllun cenedlaethol i greu pennod o lewyrch economaidd i Gymru

Mae Rhun ap Iorwerth Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi wedi addo y bydd llywodraeth Plaid Cymru yn creu pennod o lewyrch economaidd drwy gyflwyno Cynllun Economaidd Cenedlaethol manwl heb ei debyg gan unrhyw blaid arall yn yr etholiad hwn.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth mai amcan tymor-canol Plaid Cymru yw cau'r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DG, gan ganolbwyntio ar gynyddu sgiliau'r gweithlu, creu swyddi sy'n talu'n dda a chreu twf economaidd.

Meddai:  "Mae Plaid Cymru'n cydnabod fod ar Gymru angen economi gref a gwydn er mwyn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

"I gyflawni hyn, bydd ein Cynllun Economaidd Cenedlaethol yn canolbwyntio ar godi lefelau sgiliau, cyflwyno strategaeth ddiwydiannol actif, a rhoi cynllun buddsoddiad isadeiledd cynhwysfawr ar waith.

"Drwy greu 50,000 o brentisiaethau newydd, rhoi hwb i arloesedd ledled Cymru a dyblu'r gyllideb Ymchwil a Datblygiad drwy ein Corff Arloesi Cenedlaethol byddwn yn creu mwy o swyddi sgiliau-uwch sy'n talu'n dda.

"Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Plaid Cymru - NICW - fydd y prosiect buddsoddiad isadeiledd mwyaf ers datganoli, wedi ei ddylunio i drawsnewid ffyrdd, rheilffyrdd, ysgolion, ysbytai a chartrefi Cymru.

"Bydd ein Hasiantaeth Datblygu Cymru yn helpu ein busnesau cartref i lwyddo gan roi hwb i allforion, a bydd yn denu buddsoddiad o ledled y byd gan adfer y brand Cymreig oedd unwaith yn cael ei adnabod yn rhyngwladol.

"Mae gan weledigaeth economaidd Plaid Cymru uchelgais a sgop ddihafal. Os ydym am gau'r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DG mae'n hanfodol ein bod yn dod ag egni newydd i'r economi Gymreig.

"Tra bod Llafur a'r Toriaid yn barod i ddefnyddio tlodi Cymru fel arf i sgorio pwyntiau gwleidyddol, mae Plaid Cymru yn gwrthod derbyn mai dyma'r gorau y gall pethau fod i'n gwlad."
 

Rhannu |