Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mai 2016

Cymdeithas yr Iaith - “Parchwch y Gymraeg neu ewch o 'ma”

Casglodd aelodau o Gell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith wrth gangen Starbucks yn Aberystwyth ddydd Gwener gan alw ar y cwmni i barchu'r Gymraeg.

Roedd honiad i aelod o staff yn Starbucks ddweud “Speak English or get out” wrth gwsmer yn ddiweddar.

Mae'r cwmni bellach yn gwadu iddo ddigwydd ond mae amheuon gan Gymdeithas yr Iaith o hyd.

Dywedodd Manon Elin, cadeirydd grŵp hawliau iaith y Gymdeithas sydd yn aelod o Gell Pantycelyn: "Mae'n ein taro yn rhyfedd y byddai rhywun, sydd â phroffil uchel yn gyhoeddus, yn trydar am achos o'r fath heb fod rywfaint o wirionedd iddo.

"Ond maen dal yn wir y dylai'r cwmni, fel pob cwmni arall, sicrhau bod eu holl staff yn ymwybodol o bwysigrwydd cynnig gwasanaeth Cymraeg, a'r statws swyddogol sydd gan yr iaith.

"Mae cyfrifoldeb ar y staff i ddysgu’r Gymraeg i weini cwsmeriaid, nid disgwyl i’r cwsmeriaid droi at y Saesneg.

"Gan fod awgrym bod aelod o staff wedi ymyrryd â rhyddid unigolyn i siarad Cymraeg, sy’n anghyfreithlon, rydyn ni wedi gofyn i Gomisiynydd y Gymraeg ymchwilio."

Ychwanegodd Elfed Jones, Cadeirydd Cell Pantycelyn: “Mae llythyr wedi mynd gan y Gymdeithas yn genedlaethol ynglŷn â'r sefyllfa ond roedden ni'n teimlo fod angen gwneud rhywbeth yn lleol hefyd.

"Rydyn ni'n annog pawb i fynd i gaffis lleol. Ond o dderbyn na fydd pawb am wneud hynny mae angen anfon pob aelod o staff Starbucks ar hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith, a chynnig gwersi Cymraeg iddynt."

 

Rhannu |