Mwy o Newyddion
Pa blaid wleidyddol sy’n cyd-fynd orau â’ch safbwyntiau? Gwefan cyngor ar bleidleisio newydd yn cael ei lansio cyn etholiadau Cymru
Mae tîm o academyddion, wedi’i harwain gan Dr Matt Wall, uwch-ddarlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe, wedi lansio gwefan ddwyieithog newydd sy’n cymharu barn wleidyddol unigolion â safbwyntiau polisiau’r prif bleidiau sy’n cystadlu yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae dros 40 o wefannau ar gael ar gyfer etholiadau cenedlaethol ledled Ewrop, ond dyma’r cyntaf i helpu pleidleiswyr cyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016 ar 5 Mai.
Ewch i'r wefan i gymharu’ch barn wleidyddol â safbwyntiau polisi'r pleidiau gwleidyddol
Meddai Dr Matt Wall: “Mae’r syniad y tu ôl i wefan Cwmpawd Etholiad yn syml iawn.
"Mae’n gofyn 30 cwestiwn sydd wrth wraidd y ddadl wleidyddol yng Nghymru, ac yna rhoddir canlyniad ‘paru’ unigryw sy’n dangos pa mor agos mae barn y defnyddiwr yn paru â safbwyntiau polisi’r partïon.
“Mae'r wefan yn gofyn cwestiynau sy'n canolbwyntio ar feysydd y mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol amdanynt dan ddatganoli e.e. iechyd, addysg, trafnidiaeth, yr economi yng Nghymru, yr amgylchedd, yn ogystal â datganoli ei hun.”
Mae'r wefan hon yn annog pobl i bleidleisio drwy roi hyder iddynt ddeall mwy am safbwyntiau’r pleidiau.
“Gall gwleidyddiaeth ymddangos yn frawychus ac yn ddryslyd, ond ‘dyw hynny ddim yn wir am y wefan hon.
"Mae’n rhoi’r cyfle i chi ganfod sut mae’ch barn wleidyddol yn cymharu â safbwyntiau polisi’r prif bleidiau.
"Gall unrhyw un ateb y 30 cwestiwn yma a dod i gasgliad ynglŷn â safbwyntiau’r pleidiau ar brif bwyntiau trafod yr etholiad.
“Y nod yw ysbrydoli pobl i feddwl yn ddyfnach am wleidyddiaeth a pholisïau, ac i gael yr hyder i fwrw eu pleidlais ym mis Mai."