Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Ebrill 2016

Plaid Cymru yn addo gwasanaethau achub-bywyd o fewn awr i bawb yng Nghymru

Mae Gweinidog Iechyd Cysgodol Plaid Cymru Elin Jones heddiw wedi amlinellu addewid maniffesto ei phlaid i sicrhau gwasanaethau achub-bywyd o fewn awr i bawb yng Nghymru.

Mae Elin Jones wedi cyflwyno cynlluniau beiddgar i ddeddfu ar pa wasanaethau y dylid eu darparu gan ysbytai cyffredinol ledled Cymru er mwyn gwarchod gwasanaethau a rhoi stop ar raglen ganoli niweidiol Llafur.

Yn ogystal a chynnig camau cadarnhaol ar recriwtio staff a gofal am ddim i’r henoed, mae Plaid Cymru yn addo rhoi sicrwydd i bobl am ddyfodol eu hysbytai mewn deddfwriaeth.

Dywedodd Elin Jones: "Mae angen i gleifion ledled Cymru gael sicrwydd ynglyn a pha wasanaethau y gallant eu disgwyl gan ysbytai cyffredinol ledled y wlad.

“Byddai llywdoraeth Plaid Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth ar isafswm amrediad o wasanaethau y dylid eu darparu gan ysbyty cyffredinol.

“Mae ein maniffesto yn cynnwys ymrwymiad cadarn i warchod gwasanaethau achub-bywyd o fewn awr i bawb yng Nghymru. Golyga hyn wasanaethau Damwain & Argyfwng a rhai perthnasol.

“Mae darpariaeth mamolaeth llawn hefyd yn hanfodol. Mae gan bobl yr haw li ddisgwyl triniaeth ansawdd-uchel heb orfod teithio’n rhy bell.

“Dylai hyn gynnwys geriatreg, pediatrig, llawfeddygaeth ddewisol a gofal y galon, yn ogystal a chael mynediad lleol id diagnosis mwy arbenigol a thriniaeth drwy delefeddygaeth.

“Mae cynlluniau Plaid Cymru i arbed a chryfhau’r Gwasanaeth Iechyd yn gynhwysfawr ac wedi eu costio’n llawn.

“Tra bod Llafur yn bwrw mlaen gyda eu hagenda ganoli niweidiol, a’r Toriaid yn bygwth yr NHS gyda phreifateiddio, mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i warchod gwasanaethau lleol ac ysbytai cyffredinol.”

Rhannu |