Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Ebrill 2016

Ar Log - ar ôl deugain!

Eleni mae grŵp gwerin proffesiynol cyntaf Cymru yn dathlu 40 mlynedd o deithio mewn un-ar-hugain o wledydd dros dri chyfandir.

Mae Ar Log yn bwysig yn hanes cerddoriaeth Gymreig drwy fod y grŵp proffesiynol cyntaf i ddod â cherddoriaeth ein gwlad i sylw cynulleidfaoedd amrywiol ar lefel ryngwladol.

Mae’r grŵp wedi teithio a pherfformio ar draws Ynysoedd Prydain, Ewrop, Gogledd a De America gan hyrwyddo cerddoriaeth a chaneuon Cymru.

Yn ystod y teithiau mae’r grŵp wedi rhannu llwyfan gydag enwau mawr y byd gwerin fel Alan Stivell o Lydaw, Mary Black, De Dannan, Dubliners, Y Brodyr Clancy, Y Furies a Clannad o Iwerddon, Battlefield Band, Boys of the Lough, Silly Wizard a Run Rig o’r Alban a nifer o artistiaid ‘canu byd’ o bedwar ban byd.

Ffurfiwyd Ar Log yn arbennig i gynrychioli Cymru yn yr ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw yn wythnos gyntaf Awst 1976 ac fe’u hanogwyd gan y Dubliners i gario ymlaen ar ôl yr ŵyl, a dyma ni 40 mlynedd yn ddiweddarach!

Mae hi hefyd dros ddeng mlynedd ar hugain ers ffurfio’r bartneriaeth gerddorol fythgofiadwy Ar Log a Dafydd Iwan

 Dyma’r bartneriaeth a esgorodd ar ganeuon fel Cerddwn Ymlaen, Ciosg Talysarn, Y Wên Na Phyla Amser a’r anthem fytholwyrdd - Yma o Hyd.

Bydd nifer o gyngherddau yn cael eu trefnu y flwyddyn hon i ddathlu’r penblwydd, gan gynnwys taith fer i’r Almaen ac i Iwerddon, a bydd Dafydd Iwan yn westai arbennig yn rhai o’r nosweithiau (wrth gwrs) a Dewi Pws yn westai arbennig yn rhai eraill!

Mawrth 5 Y Clwb Golff, Pwllheli. Gwestai arbennig Dewi Pws

Mehefin 17 Neuadd Ogwen, Bethesda, Gwestai arbennig Dewi Pws

Mehefin 18 Clwb Gwerin y Castell, Gwesty’r Marine, Cricieth

Mehefin 24 Saith Seren, Wrecsam. Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Mehefin 25 Llety’r Parc, Aberystwyth. Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Gorffennaf 2 Gwesty’r Emlyn, Castell Newydd Emlyn. Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Gorffennaf 3 Tafwyl, Caerdydd, Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Gorffennaf 23 Gwerin y Pererin, Tyddewi/ (TBC). Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Awst 5 Tŷ Gwerin, Eisteddfod Sir Fynwy a’r Cyffiniau/National Eisteddfod

Medi 1 – 5 Yr Almaen/Germany - Kronberg / Frankfurt / Taunusstein

Medi 23 - 25 De Ddwyrain Iwerddon

Hydref 7 Gellifawr, Cwm Gwaun, Penfro. Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Hydref 8 Mynydd y Garreg, Cydweli. Gwestai arbennig Dafydd Iwan

Tachwedd 5 Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst. Gwestai arbennig  Dewi Pws

 

Rhannu |