Mwy o Newyddion
Cyngerdd i gofio am Merêd
Caiff cyngerdd arbennig ei gynnal y penwythnos hon er mwyn cofio’r diweddar Dr Meredydd Evans fu farw llynedd.
Bu farw Meredydd ‘Merêd’ Evans yn 95 mlwyd oed ar yr 21ain o Chwefror 2015 ac fe gollodd Cymru dyn oedd ‘ar dân dros Gymru a’r Gymraeg’.
Bydd y cyngerdd coffa yn cael ei gynnal ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar ddydd Sul Mai y 1af fel rhan o’r Ŵyl Fai er mwyn dathlu'r traddodiad gwerin Cymraeg.
Mae’r cyngerdd yn dilyn cyhoeddi cyfrol deyrnged Merêd, Merêd: Dyn ar Dân, a gyhoeddwyd gan wasg Y Lolfa. Bydd y gyfrol yn cael ei chyflwyno fel rhan arbennig o’r cyngerdd yn ystod yr oedfa gyda’r hwyr. Bydd cyfle wedyn i brynu copi ar stondin y siop lyfrau o Aberystwyth, Siop Inc, yn y Pafiliwn.
Golygwyd y gyfrol gan Eluned Evans, merch Merêd, gyda chymorth Rocet Arwel Jones.
Ynddo fe drafodir y cyfraniad aruthrol a wnaeth Merêd i ddiwylliant a gwleidyddiaeth Cymru yn ogystal â’r dyn ei hun. Cydnabyddir ei gyfraniad tuag at S4C, athroniaeth, canu ysgafn Cymraeg, addysgwyr a sylfaenydd y ‘Papur Bro’, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac ymchwil i ganu gwerin ymhlith eraill. Gwnaeth gyfraniadau mawr ac arhosol i Gymru yn ystod bron i ganrif o fodolaeth.
"Un o deyrngedau mwyaf y gyfrol hon yw’r un ‘anysgrifenedig’, sef bod awduron o bob degawd o oedran o’u ugeiniau i’w nawdegau wedi cyfrannu." meddai Rocet Arwel Jones.
"Mae gan bob un eu maes eu hunain, eu harddull eu hunain ond pob un am gydnabod eu diolchgarwch i Merêd.’
Fel a cheir yn y gyfrol bydd amrywiaeth eang o gerddorion yn cymryd rhan yn y cyngerdd, gan gynnwys Heather Jones, Gareth Bonello, Siân James, Tecwyn Ifanc, a Patrobas – grŵp gwerin ifanc o Benllŷn.
Meddai Dafydd Iwan, trefnydd y cyngerdd: "‘Mae’n bleser i drefnu Cyngerdd Mered ar ran Ymddiriedolaeth William Salesbury, ac edrychaf ymlaen at achlysur hwyliog i ddathlu’r hyn oedd mor agos i galon Mered, a hynny yn y fro lle treuliodd ran helaeth o’i fywyd. Dwi’n siwr y bydd yn achlysur i’w gofio."
Bydd y cyngerdd yn dechrau am 3 o’r gloch ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid ar Fai y 1af. Ni bydd angen prynu tocynnau o flaen llaw a bydd bwyd a diod ar gael.
Mae Merêd: Dyn ar Dân, Cyfrol Deyrnged Meredydd Evans (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.