Mwy o Newyddion
Gweddillion dynol i’w ddadorchuddio eto ar safle capel ar y traeth
Mae disgwyl y bydd gwaith cloddio terfynol ar safle capel o'r oesoedd canol cynnar ar un o draethau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn datgelu mwy am y bobl a oedd yn byw yng Nghymru 1,000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae archaeloegwyr eisoes wedi cloddio ddwywaith yn safle Capel Sant Padrig, yn y twyni ym Mae Porth Mawr, Tyddewi.
Mae bron i 50 o sgerbydau sy’n dyddio’n ôl i’r seithfed ganrif a’r unfed ganrif ar ddeg wedi cael eu canfod.
Roedd nifer mewn beddi ‘cist’ - beddi hir ag ochrau cerrig iddynt. Daethpwyd o hyd i feddi plant hefyd, wedi’u haddurno â haenau o gerrig cwarts a chregyn llygad maharen.
Ym mis Mai, bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn cloddio unwaith eto, a bydd yn cynnal teithiau tywys am ddim bob diwrnod rhwng 9 a 27 Mai.
Bydd Porthmyn y Parc Cenedlaethol a Wardeiniaid Gwirfoddol yn helpu i baratoi’r safle drwy symud tywarch a thywod.
Dywedodd Ken Murphy o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed fod yr esgyrn mewn cyflwr da yn y ddwy gloddfa gyntaf, a’u bod wedi darganfod croes garreg ar ben un o'r beddi, a oedd yn arwyddocaol iawn gan mai dyma’r tro cyntaf erioed i groes garreg unionsyth gael ei chanfod gyda bedd cist hir ym Mhrydain.
Ychwanegodd: “Bydd Prifysgol Sheffield yn dadansoddi'r esgyrn a bydd hynny’n rhoi gwybodaeth i ni am ddiet y bobl sydd wedi’u claddu yng Nghapel Sant Padrig, a hyd yn oed am ble cawsant eu geni.
"Bydd canlyniadau’r cloddio’n ein helpu ni i ddeall llawer mwy am fywydau a chredoau'r bobl a oedd yn byw yng Nghymru dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl.”
Cadw (Llywodraeth Cymru), Ymddiriedolaeth Elusennol Nineveh a Phrifysgol Sheffield sy’n ariannu'r gwaith cloddio, gyda chefnogaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Yn ôl y sôn, o’r capel hwn yr hwyliodd Sant Padrig am Iwerddon yn ystod y bumed ganrif OC.
Roedd y capel yn adfail dros 400 mlynedd yn ôl, ond nid yw’r lleoliad wedi mynd yn angof, ac mae beddi gyda gweddillion dynol wedi cael eu hamlygu’n rheolaidd gan stormydd.
Dywedodd Phil Bennett, Rheolwr Treftadaeth a Diwylliant Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Fe wnaethon ni osod clogfeini yn erbyn safle’r capel er mwyn atal erydu 12 mlynedd yn ôl, ond cafodd y rhain eu golchi ymaith yn ystod stormydd gaeaf 2014, gan amlygu rhagor o gladdfeydd.
"Felly fe wnaethon ni benderfynu cloddio’r rhannau hynny o'r safle a oedd yn fwyaf agored i gael eu herydu, a nod y gwaith hwn yw sicrhau na fydd rhagor o archaeoleg mewn perygl am yr hanner can mlynedd nesaf.”
Mae’r teithiau cloddio dyddiol am ddim a does dim rhaid archebu.
Mae safle'r capel 50m o faes parcio Bae Porth Mawr.
Ar benwythnosau 14/15 a 21/22 Mai, bydd teithiau tywys hwy yn cael eu cynnal, a fydd yn cynnwys ymweld â’r olion archaeolegol ym Mhenmaen Dewi, sydd gerllaw. I ymuno ag un o'r teithiau hyn, cysylltwch â Sarah Rees ar 01558 825999 neu s.rees@dyfedarchaeology.org.uk.