Mwy o Newyddion
Nid yw'n bosib ymddiried yn y Llywodraeth i amddiffyn ffermwyr Cymru yn ôl Liz Saville Roberts
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts wedi cyhuddo Llywodraeth y DU o fethu ac amddiffyn ffermwyr Cymru ar ôl iddi ddod i’r amlwg eu bod wedi methu a dadlau o blaid darparu cymorth gwladwriaethol i ffermwyr yn ystod y Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd fis diwethaf.
Cyhoeddodd y Comisiwn Ewropeaidd becyn i helpu ffermwyr gan gynnwys caniatáu Aelodau Gwladwriaethol i roi hyd at €15,000 i bob ffermwr bob blwyddyn heb dorri rheolau cymorth gwladwriaethol. Fodd bynnag, daeth i’r amlwg fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod ymuno â gwladwriaethau eraill i alw am gymorth pellach i ffermwyr yn y sectorau llaeth, cig moch, llysiau a ffrwythau.
Mae Liz Saville Roberts AS wedi cyflwyno Cynnig Seneddol sy’n galw ar y Llywodraeth i gymryd mantais o’r pecyn cymorth newydd gan ddarparu’r swm llawn o arian i ffermwyr ar draws y DU.
Meddai: “Gyda gostyngiad mewn prisiau, gorgyflenwad o gynnyrch llaeth yn y farchnad ryngwladol ac amodau tywydd heriol; Mae bywyd yn anodd iawn ar ein ffermwyr. Dim ond yr wythnos diwethaf cawsom ddadl ar yr argyfwng sy'n wynebu ffermwyr llaeth, gyda pris llaeth wedi gostwng 26% dros y 30 mis diwethaf.
“Gyda hyn mewn golwg, byddai rhywun yn disgwyl i Lywodraeth y DU wneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu ein diwydiant ffermio rhag amodau cyfnewidiol y farchnad, gan ddarparu, lle bo’n bosib gymorth ychwanegol i helpu ffermwyr trwy’r cyfnod heriol hwn.
“Fodd bynnag, yn hytrach na ymladd cornel y diwydiant ffermio, mae'n ymddangos fod y Llywodraeth wedi cadw'n dawel pan ddaeth i ddadlau o blaid darparu cymorth gwladwriaethol hanfodol i'n ffermwyr. Tra bod dros hanner Aelodau-gwladwriaethol wedi galw am becyn gweithredu yn ystod cyfarfod o'r Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd, ni chefnogodd Llywodraeth y DU yr alwad.
“Tra bod Comisiwn yr UE wedi ymrwymo i ddefnyddio pob dull posibl i helpu marchnadoedd amaethyddol Ewropeaidd yn y tymor byr a'r tymor hir, dylai Llywodraeth y DU yn awr yn gamu i’r bwlch a darparu y swm llawn o arian i ffermwyr ar draws y DU.”