Mwy o Newyddion
Penodi Dr Frank Atherton yn Brif Swyddog Meddygol newydd Cymru
Mae Dr Frank Atherton wedi'i benodi'n Brif Swyddog Meddygol newydd Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw.
Daw Dr Atherton yn wreiddiol o Swydd Gaerhirfryn, ac ef yw'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Iechyd presennol yn yr Adran Iechyd a Lles yn Nova Scotia, Canada. Mae yn y swydd hon ers 2012.
Rhwng 2002 a 2012, bu Frank yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yng Ngogledd Swydd Gaerhirfryn. Rhwng 2008 a 2012, bu hefyd yn Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Iechyd y Cyhoedd y DU.
Yn ei rôl yn Brif Swyddog Meddygol Cymru, bydd Dr Atherton yn gyfrifol am ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Cabinet ar faterion iechyd ac iechyd y cyhoedd, gyda'r bwriad o wella iechyd a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Bydd hefyd, yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru, yn arwain y proffesiwn meddygol yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys chwarae rôl allweddol yn y meysydd rheoleiddio, addysg a hyfforddiant, a safonau a pherfformiad meddygol.
Penodwyd Dr Atherton yn lle Dr Ruth Hussey, yn dilyn ei hymddeoliad ym mis Mawrth. Mae disgwyl iddo ddechrau yn ei swydd newydd yn hwyrach yr haf hwn.
Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Dr Andrew Goodall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi bod Dr Frank Atherton wedi'i benodi'n Brif Swyddog Meddygol Cymru ac yn Gyfarwyddwr Meddygol GIG Cymru.
"Mae gan Dr Atherton gyfoeth o brofiad o weithio ym meysydd iechyd ac iechyd y cyhoedd yn y DU ac yn rhyngwladol. Rwy'n falch iawn o gael rhywun o safon Frank i ymuno â ni yng Nghymru wrth i ni ymdrechu i barhau i wella iechyd a lles y genedl."
Dywedodd Dr Frank Atherton: “Mae'n bleser gen i gael fy mhenodi'n Brif Swyddog Meddygol nesaf Cymru. Mae'r genedl yn wynebu heriau mawr a chyfleoedd cyffrous i wella iechyd ac rwy'n ei ystyried yn fraint fawr i gael y cyfle hwn i arwain yr ymdrechion i ddatblygu Cymru iachach."