Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2016

Dros gant o blant yn rasio yn Ras Crannog

Daeth dros gant o blant i Wersyll Llangrannog dydd Sul, 24 Ebrill i gystadlu yn Ras Crannog.  Dyma’r ail flwydd i’r ras, sydd yn tyfu yn ei phoblogrwydd, gael ei chynnal.

Mae Ras Crannog yn cael ei threfnu ar y cyd rhwng Urdd Gobaith Cymru, Cered a Phwyllgor Lles Llangrannog. 

Cynhaliwyd cyfres o rasys i wahanol oedrannau  - o ras syml i blant blwyddyn 2 a iau i ras heriol 10km i oedolion.

Gareth Payne enillodd y ras i oedolion, gyda Sian Roberts Jones yn ennill y ras i ferched – y ddau o Glwb Rhedeg Sarn Helen.

Yn ôl Anwen Eleri, Swyddog Datblygu Ceredigion, un o drefnwyr y ras, “Cawsom ddiwrnod arbennig dydd Sul, ac roedd yn wych gweld cynifer o blant yr ardal yn rhedeg. 

"Mae hwn yn ddigwyddiad sydd yn tyfu yn ei boblogrwydd a theimlwn ei bod yn bwysig annog plant a phobl ifanc i ddechrau cadw’n heini a mwynhau yr awyr iach o oedran ifanc.”

Mae copi llawn o’r canlyniadau i’w gweld yn www.racesplitter.com a’r holl luniau i’w gweld ar dudalen Facebook UrddCeredigion.  

Rhannu |