Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2016

Côr Gobaith yn dathlu dengmlwyddiant

Bydd Côr Gobaith yn dathlu ei ddengmlwyddiant nos Sadwrn, gyda chyngerdd yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth yn cychwyn am 7.00. Mae'r cyngerdd yn dwyn y teitl 'Côr Gobaith, y deng mlynedd cyntaf gobeithio’.

Yn 2006, yn dilyn cynnal Fforwm Cymdeithasol Cymru yn Aberystwyth, penderfynodd Susie Ennals ddod ynghyd ag eraill i ffurfio Côr Gobaith.

Yr oedd Fforwm Cymdeithasol Cymru yn gynulliad Cymru-gyfan o grwpiau cymdeithas sifil a drefnwyd er mwyn rhannu syniadau a chwilio am ffyrdd newydd o gydweithio.

Yr oedd Susie wedi canu gyda Chôr Cochion, côr sosialaidd Caerdydd sy'n canu'n rheolaidd ar strydoedd y ddinas ac mewn protestiadau.

Mae Côr Gobaith yn canu dros heddwch, cyfiawnder a chynaladwyedd amgylcheddol. Côr stryd ydyw sy'n benderfynol o ddod â cherddoriaeth a gwleidyddiaeth gobaith i ofodau cyhoeddus, a daw ei aelodau mor bell â Machynlleth a Llanbedr Pont Steffan.

Ers ei sefydlu, mae Côr Gobaith wedi canu ar Sgwâr Owain Glyndŵr yn Aberystwyth ar ddydd Sadwrn bob mis yn ddi-ffael.

Yn wreiddiol, ymrwymiad i ganu nes ddiwedd y rhyfel yn Irac oedd hwn, neu o leiaf nes bod Prydain ddim bellach yn rhan o'r weithred anghyfreithlon honno.

Erbyn hyn, mae'r ymrwymiad yn ymwneud ag egwyddorion cyffredinol heddwch, cyfiawnder a chynaladwyedd.

Mae'r côr yn bysgio i godi arian i achosion ac ymgyrchoedd lleol a rhyngwladol.

Yn aml, rhoddir yr arian a godir i Médecins Sans Frontières (Meddygon heb Ffiniau).

Ond mae Côr Gobaith hefyd wedi canu i Medical Aid for Palestinians, Cymorth i Fenywod a changen Aberystwyth o Freedom from Torture.

Bob blwyddyn mae Côr Gobaith yn mynychu'r Ŵyl Corau Stryd ac wedi canu mewn gwyliau ym Manceinion, Brighton, Sheffield, Bury, Hebden Bridge a Whitby.

Yn 2013, tro Côr Gobaith oedd hi i gynnal yr Ŵyl.

Gyda'r haul yn gwenu, gorymdeithiodd tri deg chwech o gorau a rhyw saith cant o bobl lawr Rhiw Penglais i gyd-ganu’n fôr o leisiau ar y prom.

Yr oedd corau o bob rhan o Brydain yn canu a chodi arian o amgylch y dref cyn cynnal cyngerdd mawr yng Nghanolfan y Celfyddydau gyda'r holl gorau yn cymryd rhan.

Derbyniodd yr Ŵyl gefnogaeth nifer o fudiadau, pobl a busnesau yn Aberystwyth, yn arbennig Canolfan y Celfyddydau a Chyngor y Dref.

Bydd y cyngerdd dathlu nos Sadwrn yn adrodd hanes Côr Gobaith trwy lun a chân, ac yn cynnwys delweddau lliwgar o amryw brotest ac ymgyrch dros y blynyddoedd a nifer o ganeuon o blith casgliad helaeth y côr.

Yn ogystal â hen ffefrynnau i gynhesu'r galon, bydd cyfle i glywed sawl cân newydd a gyfansoddwyd gan aelodau'r côr mewn ymateb i faterion cyfredol megis newid hinsawdd, digartrefedd a thlodi.

Mae Cyfarwyddwr Cerddorol cyfredol y côr Nest Howells wedi estyn y casgliad i gynnwys nifer o ganeuon Cymraeg, a hefyd wedi addasu geiriau nifer o ganeuon adnabyddus a chyfieithu caneuon protest o bob rhan o'r byd.

Dywedodd Elin Jones, ymgeisydd Plaid Cymru dros etholaeth Ceredigion yn etholiadau'r Cynulliad: "Hoffwn ddymuno pen-blwydd hapus iawn i Gôr Gobaith.

"Bu'r Côr yn rhan o sawl ymgyrch bwysig, o achub gwasanaethau cyhoeddus i wrthwynebu rhyfeloedd anghyfiawn a chodi arian i ffoaduriaid.

"Mae Côr Gobaith wedi bodloni codi llais dros gymaint o achosion da.

"Gall Ceredigion fod yn falch o'r côr sydd wedi ychwanegu dimensiwn cerddorol newydd i draddodiad hir yr ardal o gefnogi heddwch a rhyng-genedlaetholdeb."

Rhannu |