Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2016

Bae Caswell yn Abertawe yw ail draeth di-fwg Cymru

Mae'r rhai sy'n mynd i'r traeth yn Abertawe'n cael y cyfle i ymweld â thraeth di-fwg yr haf hwn fel rhan o ymgyrch i greu mwy o leoedd di-fwg yn y ddinas.

Mae Cyngor Abertawe'n lansio arbrawf ar 27 Ebrill ym Mae Caswell lle gofynnir i ymwelwyr arsylwi ar waharddiad gwirfoddol ar smygu yn y man hardd poblogaidd hwn.

Nodau'r gwaharddiad gwirfoddol ar smygu ar y traeth yw helpu i ddarparu mannau glanach, iachach i bobl gan gynnwys plant ac i leihau llygredd ar draethau oherwydd bonion sigaréts.

Mae'r cyngor eisoes wedi creu mwy na 70 o ardaloedd chwarae di-fwg ar draws y ddinas mewn ymgais i ddiogelu plant ifanc rhag mwg ail-law.

Meddai Chris Steele, Cydlynydd Hybu Iechyd Cyngor Abertawe, "Mae creu mannau di-fwg yn hanfodol os ydym i ddarparu amgylchedd glanach, iachach i breswylwyr ac ymwelwyr.

"Mae gwaharddiad eisoes wedi'i gyflwyno i atal pobl rhag smygu mewn ceir os yw plant yn bresennol ac rydym hefyd wedi creu mwy na 70 o ardaloedd chwarae di-fwg. Bydd ychwanegu traethau di-fwg yn ein cynorthwyo ymhellach i amlygu peryglon smygu a gobeithio atal plant rhag dechrau smygu yn y dyfodol."

Meddai Suzanne Cass, Prif Weithredwr ASH Wales Cymru, "Rydym yn cefnogi Cyngor Abertawe i roi'r traeth di-fwg cyntaf ar waith - yr ail o'i fath yng Nghymru.

"Gwyddom fod gweld smygu'n dylanwadu'n fawr ar bobl ifanc ac mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth y gallwn i'w stopio rhag meddwl bod smygu yn rhywbeth 'normal' a chadw ein cenhedlaeth nesaf rhag crafangau tybaco."

"Mae Bae Caswell yn ardal hyfryd yn Abertawe. Bonion sigaréts sy'n llawn cemegau yw'r eitem fwyaf o sbwriel yn y byd gyda thros 4 triliwn o dunelli'n cael eu gollwng yn flynyddol. Bydd gwaharddiad gwirfoddol ar smygu yma'n cael effaith enfawr ar warchod harddwch naturiol yr ardal hon drwy leihau sbwriel sy'n llygru ein traethau a'n dyfrffyrdd.

Meddai Christian Heathcote - Elliott o Iechyd Cyhoeddus Cymru, "Rydym yn croesawu lansio traeth di-fwg cyntaf Abertawe ac rydym yn cael ein hannog gan y nifer o fannau di-fwg cynyddol yng Nghymru a fydd yn helpu i ddiogelu pobl rhag effeithiau niweidiol mwg ail-law."

 

Rhannu |