Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2016

Plaid Cymru yn cyhoeddi’r rhaglen effeithlonrwydd ynni cartref fwyaf erioed i Gymru

Mae Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cymunedol Llyr Gruffydd wedi datgelu rhaglen gynhwysfawr ei blaid i wella effeithlonrwydd ynni tai Cymru dros yr
ugain mlynedd nesaf.

Dywedodd Llyr Gruffydd petai’n cael ei hethol ym mis Mai, y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn rhoi ar droed y fenter effeithlonrwydd ynni fwyaf erioed a welodd Cymru, a
bod cynigion cynhwysfawr y blaid yn ymdrin â stoc dai bresennol Cymru a thai gaiff eu hadeiladu yn y dyfodol.

Mae’r mesurau yn amrywio o fenter effeithlonrwydd ynni cartrefi fwyaf Cymru i gryfhau rheoliadau adeiladu er mwyn annog codi adeiladau ‘Agos i Sero Ynni’ a thai arloesol ‘ynni positif’ a ddyluniwyd gan Brifysgol Caerdydd - sydd yn allforio mwy o ynni i’r grid nac y maent yn ddefnyddio.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros Gymunedau Cymunedol, Llyr Gruffydd y bydd y rhaglen yn hybu creu swyddi, yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd ac yn lleihau allyriadau carbon - gan gyfrannu at waelodlin driphlyg datblygu cynaliadwy.

Meddai: "Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno’r ymdrech effeithlonrwydd ynni fwyaf a welwyd yng Nghymru er mwyn gwella effeithlonrwydd ein stoc dai bresennol.

“Byddwn yn cyflwyno rheoliadau adeiladu cryfach er mwyn cwrdd â’n hoblygiadau lleihau carbon yng nghyswllt adeiladau newydd.

“Mae tai ynni-effeithlon yn elfen allweddol o gartrefi o safon, ac o’r herwydd bydd Plaid Cymru yn cryfhau rheoliadau er mwyn sicrhau bod y safonau hyn yn gymwys i dai newydd a’r stoc hŷn.

“Bydd hyn yn lleihau allyriadau, yn torri biliau ynni i gwsmeriaid yn sylweddol, ac yn creu gwaith i bobl Cymru – yr hyn sy’n cael ei alw yn waelodlin driphlyg datblygu cynaliadwy.

“Byddwn hefyd hyn gweithredu polisïau cadarnhaol o blaid solar, defnyddio pob adeilad cyhoeddus addas, a chyflwyno ‘toeau gwyrdd’ mewn rheoliadau adeiladu er mwyn sicrhau tai newydd mwy cynaliadwy.

“Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i sicrhau fod stoc tai Cymru o’r ansawdd uchaf posib ac y cymerir y camau angenrheidiol i sicrhau y byddant yn effeithlon ac yn gynaliadwy.”

 

Rhannu |