Mwy o Newyddion
Pedwar o bob deg oedolyn yn fyd-eang yn honni i’w plentyndod gael ei effeithio gan anffafriaeth – ymchwil newydd gan Achub y Plant
Mae bron i 40 y cant o oedolion ledled y byd wedi profi anffafriaeth pan yn blant oherwydd pwy ydyn nhw, ble maen nhw’n byw a ble y cawsant eu geni yn ôl arolwg byd-eang gan Achub y Plant.
O ganlyniad, dywed bron i hanner (49 y cant) i addysg gael ei effeithio’n andwyol, ac nid oedd dros drydydd (35 y cant) yn gallu derbyn gwasanaethau iechyd pwysig.
Yr arolwg newydd hwn – fu’n cwestiynnu dros 18,000 o bobl mewn 18 o wledydd yn fyd-eang – yw’r mwyaf o’i bath y mae’r mudiad cymorth wedi ymgymryd ag ef, a bu’n craffu ar ryw, anabledd, ethnigrwydd, crefydd a phlant sy’n mudo.
Mewn ciplun o anffafriaeth sy’n gwaethygu’n fyd-eang, darganfuwyd bod:
- 56 y cant o atebwyr yn honni nad yw anffafriaeth yn erbyn plant wedi gwella yn eu gwlad dros yr 20 mlynedd diwethaf. Yn wir dywedodd 36 y cant ohonynt ei fod wedi gwaethygu;
- Yn rhanbarthol, y rhai a holwyd yn Affrica wnaeth adrodd y lefelau uchaf o anffafriaeth yn eu plentyndod (58 y cant);
- Roedd bron i hanner y bobl a holwyd yn Asia (45 y cant) yn dweud iddynt wynebu anffafriaeth pan yn blant.
Mae’r arolwg yn cael ei gyhoeddi wrth i’r sefydliad rybuddio mewn adroddiad newydd, Pob un Plentyn (Every Last Child), tra bod gwelliant wedi bod wrth gyrraedd plant tlotaf y byd, mae’r rheiny o grwpiau sydd wedi profi anffafriaeth yn cael eu anwybyddu yn gyson, er mai hwy sydd yn y perygl mwyaf.
“Mae nifer o wledydd yn methu casglu data am blant wedi eu eithrio yn bwrpasol, sydd yn ei gwneud hi’n anodd i greu darlun cyflawn – ond yn ein profiad ni o weithio mewn 120 o wledydd ledled y byd mae’r anffafriaeth yma yn angeuol,” medd Mary Powell-Chandler, Pennaeth Achub y Plant Cymru.
“O’r 16,000 o blant sydd dal yn marw bob dydd o achosion rhwystradwy, mae nifer anghyfartal ohonynt o’r grwpiau anghofedig yma.
"Nid damwain yw’r ffaith bod anffafriaeth yn atal rhai o’r plant mwyaf bregus rhag cael mynediad at wasanaethau all achub eu bywyd – mae’r plant yma yn cael eu gadael allan yn systematig drwy gynllun neu esgeulustod.”
Datgela’r adroddiad bod amcangyfrif o 400 o blant yn wynebu anffafriaeth yn fyd-eang oherwydd eu ethnigrwydd a crefydd.
Darganfuwyd:
- Yn ardal Bihar, India, lle mae 59 y cant o’r tlawd yn rhan o’r gyfundrefn gast, dim ond chwe y cant o blant sy’n cael eu cofrestru wedi eu geni, o’i gymharu â 42 y cant o blant yng ngweddill y wlad – sydd yn eu hatal rhag cael mynediad i wasanaethau hanfodol gan nad oes ganddynt brawf o’u genedigaeth
- Yn Sierra Leone, sydd ag un o’r cyfraddau beichiogrwydd uchaf yn y byd ar gyfer merched yn eu harddegau, mae 40 y cant o holl farwolaethau mamol yn ferched yn eu harddegau. Nid yw merched sydd yn feichiog yn cael mynychu’r ysgol na sefyll arholiadau.
- Yn Tanzania, bydd 61 y cant o ferched sydd heb dderbyn addysg yn briod erbyn eu penblwydd yn 18, o’i gymharu â pump y cant o’r rheiny sydd wedi cwblhau addysg uwchradd neu ôl-uwchradd.
- Mae plant sydd ag anableddau dair neu bedair gwaith yn fwy tebygol na’u cyfoedion i brofi trais corfforol neu rywiol neu esgeulustod.
- Mae plant sy’n cael eu geni ynghanol gwrthdaro a phlant sydd wedi eu disodli yn fewnol yn marw mewn niferoedd uwch na’r rheiny mewn gwledydd heddychlon. Ar gyfartaledd, mae dwywaith gymaint o blant yn marw cyn eu penblwydd yn bump oedd mewn ardaloedd gwrthdaro o’i gymharu a gwledydd heb wrthdaro.
Mae Achub y Plant yn lansio ymgyrch dair blynedd newydd, Pob Un Plentyn (Every Last Child), er mwyn sicrhau bod gan 15 miliwn o blant gyfle cyfartal i oroesi ac i fanteisio ar fynediad i ofal iechyd ac addysg waeth pwy ydyn nhw a ble maen nhw’n byw.
Mae’r ymgyrch yn galw ar wneuthurwyr penderfyniadau ar lefel y cartref, lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod rhwystrau sydd yn atal y plant tlotaf rhag gael mynediad i wasanaethau all achub bywyd yn cael eu dileu.
Yn ogystal a hyn, mae’r mudiad yn galw ar arweinwyr y byd i ymrwymo i dri gwarant sylfaenol. Mae rhain yn cynnwys ariannu teg – fel bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu hariannu mewn dull cynaliadwy ac am ddim i bawb i’w ddefnyddio – triniaeth gyfartal i bob plentyn, ac i ddal gwneuthurwyr penderfyniadau i gyfrif.