Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2016

Cofio ac ysbrydoli merched Cymru - Haf a Beryl yn trafod eu nofelau newydd

Ceir cofio cyfraniad a phortreadu dynoliaeth merched yn hanes Cymru yr wythnos hon mewn digwyddiad arbennig.

Ar nos Fercher y 27ain o Ebrill am 7.30yh yng Ngwesty'r Eryrod yn Llanuwchllyn bydd dwy awdures yn dathlu cyhoeddi eu cyfrolau newydd – ill dwy yn cofio neu yn clodfori merched yn hanes Cymru.

Dathlir cyhoeddi nofel newydd yr awdures Haf Llewelyn, Y Traeth, a chyfrol arbennig Beryl H Griffiths, Mamwlad, gan Wasg Carreg Gwalch.

Yn dilyn llwyddiant cyfres Mamwlad (Tinopolis) ar S4C, daw’r gyfrol Mamwlad gan Beryl H Griffiths i roi golwg fanylach i rai o ferched mwyaf dylanwadol Cymru − merched sydd wedi gwneud eu marc ar hanes Cymru ond nad ydynt, ym mhob achos, wedi cael y clod a’r sylw haeddiannol.

Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno straeon hynod naw o’r merched hyn, a lwyddodd, yn erbyn disgwyliadau cymdeithas, i herio ffiniau a dilyn eu breuddwydion.

"Pwrpas Mamwlad yw cofio, ac ysbrydoli. Os na wnawn ni roi’r hanesion yma ar gof a chadw nawr, sut ydyn ni’n mynd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched Cymru?’" meddai Ffion Hague, sydd wedi cynnig y rhagair ar gyfer y gyfrol.

Olrheinir nifer o fywydau merched o Gymru yn y gyfrol gan gynnwys Betsi Cadwaladr, Gwen John a Grace Williams.

Lleolir Y Traeth gan Haf Llewelyn yn Sir Feirionydd yn ystod yr 17eg Ganrif, gan olrhain bywydau rhai o deuluoedd bonedd y cyfnod.

Dilyna hanes Margaret Cave wedi iddi briodi’r uchelwr Siôn Wynne o Wydir, pan nad oedd fawr hŷn na phlentyn. Er i Margaret geisio’i pherswadio ei hun ei bod hi’n perthyn. Ond mae’n gorfod dioddef dirmyg ei theulu yng nghyfraith ac yn cael pyliau o iselder ac yn hiraethu am ei merch fach, ac am ei gŵr sy’n treulio’i amser yn Llundain bell.

Pan ddaw Begw i weithio fel morwyn ati, mae perthynas agos yn tyfu rhyngddi hithau a Margaret a daw Begw i deimlo nad oes ganddi ddewis ond aros gyda’i meistres drwy’r cyfan.

Mae un o prif gymeriadau’r nofel, Margaret Wynne yn gymeriad go iawn o hanes, oedd yn wraig i Sion Wynne o Wydir.  Mae hanes yn ei chofio fel ‘dynes flin’ ond yn ôl darllen ac ymchwil Haf fe gafodd Margaret i ‘chamddeall yn llwyr.’

"Roedd hi’n amlwg yn ddynes unig iawn ac wedi gorfod plygu i drefn yr oes. Am iddi fethu rhoi etifedd fe gafodd hi ei difrio a’i sarhau gan y teulu pwerus bonedd hyn," medd Haf.

Roedd ail ysgrifennu stori Margaret, fel ‘rhoi’n iawn am y sarhad gafodd hi yn ystod ei bywyd’.

‘Stori sydd yma am gyfeillgarwch a natur ddynol. Ac mae’r themau hynny yn rai oesol.’

Bydd y digwyddiad yng Ngwesty’r Eryrod am ddim gyda croeso i bawb.

Mae Mamwlad gan Beryl H Griffiths (£8.50, Gwasg Carreg Gwalch) ac Y Traeth gan Haf Llewelyn (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Rhannu |