Mwy o Newyddion
Cyngor Sir Fynwy yn creu etifeddiaeth fyw i nodi Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf
Mae Cae Chwarae Garden City yng Nghas-gwent yn mynd i gael ei ddiogelu am byth gan Gyngor Sir Fynwy fel Cae Canmlwyddiant.
Nod Caeau Canmlwyddiant, sy’n cael ei redeg gan yr elusen genedlaethol Fields in Trust, mewn partneriaeth â’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ydy diogelu cofebion rhyfel mewn meysydd chwarae, parciau a mannau gwyrdd er cof am y rhai hynny a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r rhaglen genedlaethol hon yn ffordd unigryw i ddathlu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'n rhoi'r cyfle i dirfeddianwyr fel Cyngor Sir Fynwy i neilltuo lle, i gofio aberthau y rhai hynny a roddodd eu bywydau yn ystod y gwrthdaro ond hefyd, i sicrhau bod mannau gwyrdd gwerthfawr ar gael i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau fel etifeddiaeth fyw.
Gall Caeau Canmlwyddiant sy’n cael eu diogelu drwy'r rhaglen fod yn barciau cofeb ryfel a chaeau chwarae a roddir er cof am y rhai hynny a gollodd eu bywydau, neu’n fannau gwyrdd eraill sydd â chysylltiad presennol neu arfaethedig gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf, fel Cae Chwarae Garden City.
Lluniwyd y Cae Chwarae gan 'Gwmni Adeiladu Llongau Cenedlaethol' Admiralty, fel rhan o'r pentref newydd a adeiladwyd ar gyfer gweithwyr iard longau newydd y Llywodraeth yng Nghas-gwent ym 1917, i ddarparu llongau ar gyfer ymdrech y Rhyfel Byd Cyntaf.
Adeiladwyd y datblygiad tai a’r llithrfeydd ar gyfer y llongau gan 6,000 o Beirianwyr Brenhinol, a gwnaethpwyd rhywfaint o waith sifil gan garcharorion rhyfel o’r Almaen.
Meddai Ivor Morgan, Cadeirydd Meysydd Chwarae Cymru; "Mae'r rhaglen hon yn ffordd addas i ni i nodi’r aberth a wnaed gan gynifer yn y Rhyfel Byd Cyntaf tra'n edrych i'r dyfodol drwy goffadwriaeth fyw.
"Rydym wrth ein bodd bod Cyngor Sir Fynwy yn cofleidio Caeau Canmlwyddiant, ac yn coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ar gyfer pobl Cas-gwent mewn ffordd y gallant ei werthfawrogi am byth. Rydym yn edrych ymlaen at lawer mwy o dirfeddianwyr yn dilyn eu hesiampl."
Meddai Phil Jones, Rheolwr Ardal Cymru ar gyfer y Lleng Brydeinig Frenhinol: "Trwy bartneriaeth gyda Fields in Trust rydym yn sicrhau ein bod yn helpu i gadw cofebion pwysig fel rhan o ddathliadau Canmlwyddiant y DU.
"Mae gofodau cymunedol, fel yr un sy'n cael ei neilltuo fel Cae Canmlwyddiant gan Gyngor Sir Fynwy, yn ffurfio rhan hanfodol o dreftadaeth leol ac yn chwarae rhan allweddol wrth addysgu'r genhedlaeth nesaf am arwyddocad y Goffadwriaeth."
Meddai'r Cyng John Prosser, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog Cyngor Sir Fynwy: Rydym yn falch iawn o gael y cyfle hwn gan Fields in Trust a’r Lleng Brydeinig Frenhinol i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn y modd unigryw hwn.
"Mae diogelu Cae Chwarae Garden City a hefyd, Park Bailey yn y Fenni yn golygu bod yna bob amser rhywle i gofio aberthau y Rhyfel Byd Cyntaf ond hefyd, i fwynhau'r awyr iach a'r amgylchedd."