Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yw'r unig 'obaith gwirioneddol' i roi terfyn ar 17 mlynedd o lywodraeth Lafur
Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud heddiw mai ei phlaid yw'r "unig obaith gwirioneddol" o roi terfyn ar 17 mlynedd o reolaeth Lafur ddi-dor yng Nghymru.
Wrth siarad gyda rhaglen Today Radio 4 y bore 'ma, dywedodd Leanne Wood fod gan Blaid Cymru y rhaglen lywodraeth fwyaf uchelgeisiol, trawsnewidiol ac ymarferol o unrhyw blaid yng Nghymru, ac yn barod i arwain y newid sydd ei angen.
Mae'r tri arolwg barn diweddaraf yng Nghymru wedi rhoi Plaid Cymru yn yr ail safle, gan basio'r Toriaid, o ran y nifer o seddi, gan osod y blaid fel y brif her i'r llywodraeth Lafur cyn i bobl Cymru fwrw eu pleidlais ar Fai 5ed.
Wrth siarad ar ôl rhaglen Today, dywedodd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru:
"Gyda dim ond naw diwrnod yn weddill cyn i bobl Cymru fwrw eu pleidlais, neges o obaith yw neges Plaid Cymru.
"Os ydych chi wedi diflasu ar restrau aros yn tyfu, safonau ysgolion yn dirywio ac economi ddi-symud, defnyddiwch pob pleidlais i ethol llywodraeth Plaid Cymru ar Fai 5ed.
"Mae hunanfoddhad a diffyg uchelgais y weinyddiaeth bresennol yn dal ein cenedl yn ôl, ond nid oes rhaid i bethau fod fel hyn.
"Mae Plaid Cymru'n cynyrchioli'r unig obaith gwirioneddol o roi terfyn ar 17 mlynedd o reolaeth Lafur ddi-dor. Gyda'r Toriaid nawr yn y trydydd safle, ni yw'r brif her ac rydym wedi cau'r bwlch ar y rhestr rhanbarthol o bedwar pwynt mewn dim ond pythefnos.
"Gyda Phlaid Cymru mae'r momentwm nawr. Rydym yn hyderus fod gennym y rhaglen lywodraeth fwyaf uchelgeisiol, trawsnewidiol ac ymarferol o unrhyw blaid yng Nghymru, ynghyd a'r tim cryf ac unedig i'w gweithredu.
"Os yw pobl am weld newid, rhaid i bobl bleidleisio drosto. Yr etholiad hwn yw'r cyfle gorau yn hanes y Cynulliad i ddewis trywydd newydd i'n cenedl. Rwy'n annog pawb yng Nghymru i fachu ar y cyfle hwnnw."