Mwy o Newyddion
Bae Colwyn i gynnal Proms yn y Parc y BBC
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd Proms yn y Parc y BBC yn cael eu cynnal ym Mae Colwyn eleni am y tro cyntaf.
Bydd y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal bob mis Medi yn yr awyr agored ac yn cynnwys Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC a gwestai arbennig, yn cael ei ddarlledu’n fyw ar wasanaethau’r BBC.
Ddydd Sadwrn, Medi 10, fe fydd BBC Cymru, mewn cydweithrediad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn dod â gwledd o gerddoriaeth fyw i Barc Eirias yn y dref fel rhan o ddathliad Noson Olaf y Proms 2016 ledled y DU.
Mae hwn yn achlysur teuluol poblogaidd sy’n annog y gynulleidfa i ddod â’u picnic a’u baneri gyda nhw i fwynhau noson o hwyl, cerddoriaeth a thân gwyllt.
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “Mae BBC Proms yn y Parc yn cael croeso cynnes iawn yma yng Nghymru gan gynulleidfaoedd a pherfformwyr fel ei gilydd.
"Bob blwyddyn mae’n denu miloedd i fwynhau gwledd o gerddoriaeth yn yr awyr agored, ac rwyf wrth fy modd ein bod yn gallu llwyfannu’r digwyddiad ym Mae Colwyn eleni, ac am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru.”
Dywedodd y Cynghorydd Graham Rees, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer Twristiaeth, Marchnata a Hamdden: “Rydym wrth ein boddau i groesawu Proms yn y Parc y BBC i Fae Colwyn ac mae’n gyffrous i weld digwyddiad mawr arall eto wedi’i sicrhau ar gyfer Parc Eirias.
"Mae digwyddiadau yn hynod o bwysig i Sir Conwy gan eu bod yn darparu gwerth economaidd sylweddol ar gyfer ein llu o fusnesau bach.
"Ni fydd angen unrhyw anogaeth ar y rhai sydd wedi profi’r Proms o’r blaen i ddod draw, ond rwyf yn erfyn ar y rhai sydd heb gael y profiad hwnnw eto i ymuno â ni - chewch chi mo’ch siomi!”
Yn ddiweddglo ar dymor Proms sy’n cynnwys pump o berfformiadau yn Neuadd Albert yn Llundain gan Gerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, bydd Proms yn y Parc y BBC yn rhoi’r cyfle iddyn fwynhau noson yn yr awyr agored mewn rhan o’r wlad y maen nhw’n gyfarwydd iawn ag ef.
Dywedodd Michael Garvey, Cyfarwyddwr Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC: “Rydym yn perfformio’n rheolaidd yn lleol yn Llandudno, ac i lawr y lôn ym Mangor hefyd, felly fe wyddwn bod gennym gefnogaeth wych ar draws y gogledd.
"Fedrwn ni ddim disgwyl i ddod â phrofiad Proms yn y Parc i Fae Colwyn, mae’n ffordd wych i fwynhau’r gerddorfa a bydd yn ddiweddglo perffaith ar ein haf o gerddoriaeth.”
Bydd tocynnau ar gael am brisiau gostyngedig yn dechrau o £12.50 o ddydd Gwener, Mai 6, o swyddfa docynnau Venue Cymru (venuecymru.co.uk, ffôn 01492 872000) a Llinell Cynulleidfaoedd BBC NOW (bbc.co.uk/now, ffôn 0800 052 1812), ac mae rhagor o wybodaeth ar gael ar bbc.co.uk/promsinthepark