Mwy o Newyddion
Llywodraeth Plaid Cymru am gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl gydag anableddau
Mae Helen Mary Jones, ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Lanelli, wedi amlinellu’r camau y byddai llywodraeth ei phlaid yn eu cymryd er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl gydag anableddau.
Dywedodd Helen Mary Jones fod Plaid Cymru wedi ymrwymo i gynnwys pobl gydag anableddau ym mhob penderfyniad sy’n effeithio arnynt drwy wneud ymgynghoriad gyda grwpiau pobl anabl yn ofyniad statudol i unrhyw newidiadau i bolisi lles i’r dyfodol.
Ychwanegodd hi y byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cefnogi pobl ag anabledd i gael gwaith a sicrhau amgylchedd sy’n hwylus i bobl anabl mewn ysgolion a thai.
Dywedodd ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Lanelli, Helen Mary Jones: “Fe ymladda Blaid Cymru i gael Cymru lle bydd gan bawb gyfle cyfartal i lwyddo, a lle caiff amrywiaeth ei groesawu a’i barchu.
“Rydym am i leisiau pobl anabl gael eu clywed bob tro wrth wneud penderfyniadau fydd yn effeithio arnynt.
“I gyflawni hyn, byddwn yn cyflwyno gofyniad statudol ar ymgynghori gyda grwpiau pobl anabl o ran unrhyw newidiadau i bolisi lles i’r dyfodol.
“Tra’n bod ni’n credu y dylid annog a chefnogi pobl ag anabledd i gael gwaith, nid ydym yn credu y dylai pobl ag anabledd orfod wynebu’r un disgwyliadau a sancsiynau wrth chwilio am waith.
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn sefydlu cynlluniau cyflogaeth llochesol i rai sydd ag angen amgylchedd fwy cynhaliol i ddychwelyd i’r gwaith, fel carreg sarn tuag at gymryd rhan lawn mewn gwaith, a gweithio gyda chyflogwyr achrededig i sicrhau hyn.
“Byddwn yn sicrhau bod awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol yn darparu cartrefi sy’n rhoi cymorth i’r methedig a chartrefi gydol-oes sydd wedi’u haddasu i angen pobl. Bydd gan bob ysgol fynediad addas i ddisgyblion methedig.
“Mae Plaid Cymru am sicrhau bod gwell cymorth ar gael i bobl ag anawsterau dysgu, yn cynnwys cynyddu nifer y nyrsys arbenigol mewn lleoliadau ysbyty er mynd i’r afael a’r anghyfartaledd o ran darparu gwasanaethau iechyd.
“Mae tegwch a chydraddoldeb wrth galon rhaglen lywodraeth Plaid Cymru. Bydd ein gweledigaeth uchelgeisiol ond realistig yn helpu i gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl ag anableddau gan eu galluogi i chwarae rhan lawn mewn cymdeithas, heb eu dal yn ol gan stigma neu anffafriaeth.”