Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ebrill 2016

Ydy maniffestos y pleidiau yn llesol i'r Gymraeg? Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyhoeddi marciau

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi marciau ar gyfer maniffestos chwe phlaid sy'n sefyll yn etholiadau'r Cynulliad o ran yr effaith y byddai'r cynigion yn eu cael ar y Gymraeg. 

Beirniadodd panel o aelodau gwirfoddol y mudiad y maniffestos yn unol â'r cynigion polisi a amlinellwyd yn rhaglen y grŵp pwyso ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, sef y ddogfen "Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth o 2016 ymlaen" a gyhoeddwyd y llynedd.

Cafodd Plaid Cymru'r sgôr uchaf gyda marc o 77%, gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ail gyda 44%.

Daeth y Blaid Werdd a'r Blaid Geidwadol yn gyfartal ar 35% yr un.

Cafodd Llafur sgôr o 20%, gydag UKIP yn olaf ar 16%. 

Cafodd y mudiad ei blesio gyda chefnogaeth sawl plaid i'w hymgyrch 'addysg Gymraeg i bawb' a hefyd ymestyn gwaith y Coleg Cymraeg i gynnwys cynyddu darpariaeth Gymraeg o fewn addysg bellach.

Wrth ymateb i'r sgoriau, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n falch mewn nifer o feysydd bod sawl plaid wedi ymrwymo i fesurau i symud at addysg Gymraeg i bawb ac ymestyn gwaith y Coleg Cymraeg i addysg bellach.

"Fodd bynnag, bu nifer o'r pleidiau yn dioddef oherwydd diffyg manylion yn eu maniffesto.

"Mae canlyniadau'r Cyfrifiad yn amlygu'r her enfawr sydd o'n blaenau: dim ond cynllun cyflawn fydd yn ddigonol i adfer y sefyllfa.

"Er bod nifer o'r pleidiau wedi cynnig geiriau cynnes tuag at yr iaith, prin oedd y manylion o ran gwneud y dewisiadau anodd er mwyn sicrhau ein bod yn gweld ei ffyniant.

"Mae'n sgoriau hefyd yn codi cwestiwn ehangach am ddiben maniffestos mewn etholiadau'r Cynulliad Cenedlaethol.

"Yn achos nifer o'r pleidiau, bu diffyg manylion yn achosi anhawster o ran dod i gasgliad o ran a oedd y blaid gyda chynllun cynhwysfawr i sicrhau ffyniant y Gymraeg ai beidio.

"Mae'n debyg bod y diffyg gwybodaeth sy'n cael ei gynnig gan rai o'r pleidiau yn gwneud yn anos i etholwyr benderfynu sut i bleidleisio."

Rhannu |