Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Ebrill 2016

Dyluniad lliwgar a gwahanol gan Bensaer o’r Bala fydd menter newydd Amgueddfa Stori Caerdydd, Arddangosfa Guerrilla

Mae Pensaer llwyddiannus o ardal Y Bala yng ngogledd Cymru wedi dangos ei doniau pensaernïol ac wedi ennill cystadleuaeth gyffrous ac ysbrydoledig “Arddangosfa Guerrilla”. Cystadleuaeth a oedd yn cael ei chynnal ar y cyd gan Arddangosfa Stori Caerdydd ac Ymddiriedolaeth Datblygu Amgueddfa Caerdydd.

Roedd y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i unigolion i ddylunio safle arddangosfa dros dro a fyddai’n denu sylw’r cyhoedd, yn ddiogel, yn gadarn, yn ddiddos, ac yn addas i greu arddangosfa amgueddfa.

Hefyd roedd disgwyl i’r arddangosfa fod yn eithaf hawdd a chost effeithiol i’w symud i wahanol leoliadau yn ystod y flwyddyn.

Roedd y gystadleuaeth yn agored i bob sector ym myd dylunio ac yn cynnig gwobr o £2,500 ar gyfer y dyluniad a fyddai’n ennill y gystadleuaeth.

Mae Lowri Roberts yn Bensaer o gwmni Penseiri Rhys Llwyd Davies sydd wedi ei lleoli yng nghanol stryd fawr Y Bala a ddaeth i’r brig gyda’i dyluniad am adeiledd £200,000 wedi ei seilio ar syniad o dractor yn tynnu tri threlar.

Roedd y dyluniad yn cynnig safle a fyddai’n plygu i fyny ar gyfer cludiant hawdd o safle i safle.

Dywedodd Lowri: “Dwi wrth fy modd fy mod wedi ennill y gystadleuaeth Dylunio Guerrilla.

"Roedd y briff yn cynnig y cyfle i greu dyluniad gwahanol ac unigryw a dyma oedd yr atyniad i fynd ati.

"Fe roddodd y gystadleuaeth y cyfle imi gynllunio prosiect beiddgar a lliwgar a oedd yn rhoi'r cyfle imi ddefnyddio fy arbenigedd a gwybodaeth fel Pensaer a hefyd defnyddio fy mhrofiadau yn tyfu fyny ar y fferm adref.”

Cafodd y dyluniad ei ddisgrifio gan Reolwr Amgueddfa Stori Caerdydd, Victoria Rogers fel dyluniad newydd a ffres, lliwgar a gwahanol.

Dywedodd Victoria Rogers: “Mae dyluniad Lowri yn rhoi inni ofod lliwgar ar gyfer yr arddangosfa.

"Mae hi wedi sylweddoli ac wedi deall yr hyn yr oedd y briff yn gofyn amdano ac wedi creu dyluniad yn seiliedig ar hynny.

"Mae Stori Gaerdydd yn gweithio gyda chymunedau yn aml, a bydd Arddangosfa Guerrilla yn mynd ar agwedd yma gam ymhellach.

"Dyma ffordd arloesol i amgueddfeydd weithio yn y dyfodol, a bydd Caerdydd yn arwain y ffordd.

"Felly inni roedd yn hynod bwysig bod y dyluniad yn lliwgar iawn ac yn wahanol, gan gyfleu’r neges bod yr arddangosfa'r peth i’w weld yn ein cymunedau.

"Rydym nawr yn gyffrous i geisio am gyllid er mwyn sicrhau bod dyluniad Lowri yn troi yn realaeth."

Mae Lowri wedi gweithio i gwmni Pensaer Rhys Llwyd Davies ers mis Tachwedd 2012 ac roedd Rhys wedi cyffroi gymaint pan fu i ddyluniad Lowri ennill.

“Mae Lowri yn aelod gweithgar ac ymroddedig yma. Roeddwn wrth fy modd gyda’i hymgais ar gyfer y gystadleuaeth Guerrilla ac yn teimlo bod ei chais yn un cryf iawn ac felly fe gafodd ei hannog i geisio. Roedd ei chais yn edrych yn drawiadol iawn ac roeddwn wedi gwirioni pan gafodd ei chyhoeddi yn enillydd,” meddai Rhys.

Wedi ei eni a’i fagu yn Y Bala fe ddychwelodd Rhys Llwyd Davies adref ac agor ei swyddfa Pensaer yn y dref yn 2007.

Fel Pensaer mae wedi gweithio ar ddyluniad nifer o brosiectau Pensaernïol yng Nghymru yn amrywio o ddylunio fflatiau aml-lawr i brosiectau domestig.

Un o brosiectau llwyddiannus y cwmni yn ddiweddar yw Gwin Dylanwad Wine yn Nolgellau, gyda nifer fawr o brosiectau diddorol yn cael ei datblygu ar hyn o bryd.

Rhannu |