Mwy o Newyddion
Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar yr hinsawdd: Cartrefi cynnes yn ‘brawf allweddol’ i Lywodraeth nesaf Cymru
Wrth i wledydd aros i lofnodi cytundeb hanesyddol ar yr hinsawdd yn Efrog Newydd heddiw, mae WWF Cymru’n dweud y bydd sicrhau cartrefi cynnes sydd wedi’u hinswleiddio’n dda yn ‘brawf allweddol’ o ymrwymiad Llywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a sicrhau gwlad gynaliadwy.
O heddiw ymlaen, bydd Cytundeb Paris, a fabwysiadwyd yn yr uwchgynhadledd ar yr hinsawdd, COP21, ym mis Rhagfyr y llynedd, ar agor i gael ei lofnodi ym Mhencadlys y Cenhedloedd Unedig.
Bu mis Mawrth eleni’n fis arall pan dorrwyd pob record yn nhermau tymereddau byd-eang, a bydd angen i arweinwyr fynd i Efrog Newydd gydag ymrwymiadau newydd mawr i weithredu, er mwyn cadw cynhesu o dan 1. 5 C.
Mae’r ynni a ddefnyddir yn ein cartrefi, gan gynnwys ar gyfer gwresogi a goleuo, yn un o’r cyfranwyr mawr i allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.
Mae’r sector preswyl yn gyfrifol am oddeutu chwarter o’r allyriadau sy’n cael eu cynnwys yn y targed gostyngiad blynyddol sef 3% ar gyfer meysydd polisi datganoledig.
Dywed WWF Cymru fod rhaglen fawr i sicrhau effeithlonrwydd ynni cartrefi yn ffordd allweddol o ddangos ymrwymiad cadarn gan Gymru i wireddu’r fargen a luniwyd ym Mharis.
Mae’r sefydliad cadwraethol byd-eang yn galw am raglen fuddsoddi fawr gan Lywodraeth nesaf Cymru, ac mae eisiau i Weinidogion bennu nod i bob cartref yng Nghymru gyrraedd safon foddhaol (band C o’r Dystysgrif Perfformiad Ynni) erbyn 2025.
Mae’n dweud y byddai gweithredu camau fel gosod inswleiddio atigau a bwyleri mwy effeithlon ar raddfa fwy yn dod â nifer o fuddion.
Mae gwaith ymchwil yn awgrymu y byddai rhaglen o’r maint hwn, yn ogystal â lleihau allyriadau, yn creu miloedd o swyddi ac yn torri degau o filiynau o bunnoedd y flwyddyn oddi ar fil ynni Cymru, yn ogystal â sicrhau buddion iechyd.1
Meddai Jessica McQuade, Swyddog Polisi a Dadleuaeth WWF Cymru: “Wrth i’r byd uno i lofnodi bargen hanesyddol ar yr hinsawdd, mae’n hollbwysig bod Cymru’n ymuno â phob gwlad arall i weithredu i gwtogi ar allyriadau a mynd i’r afael â’r bygythiad byd-eang hwn i bobl a bywyd gwyllt.
“Mae gwneud yn siŵr bod gan bawb yng Nghymru gartref cynnes sydd wedi’i inswleiddio’n dda yn un o’r camau pwysicaf i Lywodraeth nesaf Cymru ar ôl yr etholiadau ar 5 Mai.
“Mae maint y newid mae ei angen yn golygu y bydd hyn yn galw am fuddsoddi sylweddol.
"Ond mae’r buddion mawr y bydd yn dod â nhw – o ran iechyd, swyddi a’r amgylchedd – yn golygu bod yna ddadl gref dros roi blaenoriaeth iddo ym maes seilwaith.
“Mae gweithredu ar effeithlonrwydd ynni cartrefi’n mynd y tu hwnt i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
"Mae’r ymagwedd gydgysylltiedig hon, sy’n dod â nifer o fuddion, yn ganolog i’r syniadau y tu ôl i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac i wireddu ei nodau.
"Bydd gweithredu ar effeithlonrwydd ynni cartrefi’n brawf allweddol i weld a yw Llywodraeth nesaf Cymru o ddifrif ynghylch cyflawni’r agenda hon.”
Llun: Jessica McQuade