Mwy o Newyddion
Sgrin sinema yn dychwelyd i'r Coliseum yn Aberystwyth ar ôl 40 mlynedd
Mae Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion wedi llwyddo i sicrhau Grant Cymunedol o £13,917 i ailosod sgrin sinema maint llawn a thaflunydd yn Y Coliseum, cartref Amgueddfa Ceredigion, bron 40 mlynedd ar ôl iddo gau fel sinema.
Agorwyd adeilad ysblennydd y Coliseum fel theatr adloniant yn 1905, a daeth yn sinema ddechrau’r 1930au o dan ofal Olive a Harry Gale tan 1977.
Yna bu’r Coliseum yn segur tan 1982 pan gafodd ei ailagor fel Amgueddfa Ceredigion.
Ar hyn o bryd mae wrthi’n cael ei ailddatblygu o dan gynllun ‘Dulliau Newydd’ gyda chymorth £1.3 miliwn o Gronfa’r Loteri Treftadaeth.
Cyngor Sir Ceredigion sy’n rhoddi’r Grant Cymunedol a’r bwriad yw cynyddu’r cyfleusterau, y gweithgareddau a’r cyfleoedd sydd ar gael yng Ngheredigion.
Mae’r grantiau ar gael i Grwpiau Cymunedol, Cynghorau Cymuned a Chymdeithasau Chwaraeon a Chwarae Gwirfoddol.
Bydd y Theatr y Coliseum, sydd yn adeilad hanesyddol Gradd II, yn cael seddau cyffyrddus, cyfarpar clywedol modern a dolen sain i rai sy’n defnyddio taclau clywed.
O ganlyniad bydd yn gallu cynnal digwyddiadau cymunedol a chyhoeddus mwy a gwell yn yr awditoriwm yn y dyfodol.
Dywedodd Lionel Madden, Cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion: “Mae’r Cyfeillion yn falch o gyfrannu at ddyfodol yr Amgueddfa trwy godi arian i osod y dechnoleg ddiweddaraf un yn yr awditoriwm, cyfleusterau ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw a seddau a byrddau newydd.
"Mae gan lawer o’r Cyfeillion atgofion melys o’r Coliseum yn sinema a bydd yn hyfryd profi swyn y sinema unwaith eto mewn lle mor hardd.”
I nodi’r achlysur bydd yr Amgueddfa’n dangos un o ffilmiau mud Charlie Chaplin, ‘Shoulders Arms’, gyda chyfeiliant piano gan Dr Stephen Briggs, cerddor dawnus sydd wedi bod yn gefnogol iawn i’r Amgueddfa ers tro byd, ddydd Gwener 29 Ebrill am 7.30pm, y gost yw £7 neu £6 gyda gostyngiadau.
Mae’r ffilm wedi ei gosod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae’n rhan o raglen o weithgareddau sy’n cyd-daro â’r arddangosfa gyfredol o bosteri propaganda’r cyfnod.
Dywedodd Carrie Canham, y Curadur: “Buon ni’n dangos ffilmiau ers tro, ac maen nhw’n boblogaidd iawn, yn enwedig y ffilmiau mud, ond bu’n rhaid inni fenthyg cyfarpar a doedd y sgrin ddim yn fawr iawn.
"Yn awr gallwn wneud cyfiawnder â’r ffilmiau a bydd yn brofiad brafiach i’r gynulleidfa. Mawr yw ein diolch i’r Cyfeillion am eu gwaith called yn sicrhau’r arian inni. Mae’n helpu gyda’r cyllid cyfatebol ar gyfer prosiect y Loteri Treftadaeth.”
Mae ailddatblygu’r Coliseum yn rhan o gynllun ‘Dulliau Newydd’ gyda chymorth £1.3 miliwn o Gronfa’r Loteri Treftadaeth sy’n ceisio sicrhau dyfodol yr amgueddfa trwy greu cyfleoedd i wneud incwm a denu mwy o ymwelwyr.
Mae’r prosiect wedi cael cymorth gan y Loteri Treftadaeth, CADW, Cyfeillion Amgueddfa Ceredigion ac amryw o ymddiriedolaethau a sefydliadau.