Mwy o Newyddion
Dargyfeiriad traffordd yr M4 i ddinistrio harddwch naturiol Gwastadeddau Gwent
Mae RSPB Cymru yn annog y cyhoedd i godi llais cyn ei bod yn rhy hwyr, gan fod dargyfeiriad traffordd yr M4 yn bygwth torri trwy galon Gwastadeddau Gwent a gwneud difrod di droi nôl i un o leoedd naturiol pwysicaf y wlad.
Mae Cymru’n gartref i rai o gynefinoedd naturiol mwyaf arwyddocaol ac ysblennydd y DU, ac yn gynharach eleni agorodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau i yrru traffordd trwy bedair ardal sydd o bwysigrwydd unigryw i fywyd gwyllt yng Nghymru.
Mae bygythiad y dargyfeiriad traffordd i’r de o Gasnewydd yng Ngwent wedi bod yn gwmwl du dros y tirlun gwerthfawr hwn am fwy nag 20 mlynedd, a thros yr 20 mlynedd hynny, mae’r RSPB wedi bod yn gweithio’n galed i amddiffyn y tirlun hanesyddol a’r rhywogaethau unigryw sy’n byw yno.
Fodd bynnag, byddai’r cynlluniau diweddaraf yn dadwneud y gwaith hwnnw wrth i ran unigryw o Gymru gael ei aberthu er mwyn traffordd.
Ni chymer ond ychydig funudau i ymateb i’r ymgynghoriad cyhoeddus am ddatblygiad dargyfeiriad yr M4, sy’n bygwth torri trwy bedair Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) sy’n hanfodol i warchod natur yng Nghymru.
Mae SoDdGA yn golygu fod ardal wedi ei dewis nid yn unig am ei phwysigrwydd i fywyd gwyllt yng Nghymru, ond am ei bod yn ran anghenrheidiol o dirlun gwerthfawr y DU yn ogystal.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae RSPB Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu a sicrhau deddfwriaeth bwysig a ddylai ddiogelu fod gan Gymru well cefn gwlad, sy’n fwy iach ac yn wyrddach.
Meddai Arfon Williams, Rheolwr Cefn Gwlad RSPB Cymru: “Does ond angen i chi edrych o’ch cwmpas i weld fod Gwastadeddau Gwent yn rywbeth arbennig i Gymru.
"Yn ymestyn ar hyd morlin Aber Hafren o Gaerdydd i Bont Hafren a thu hwnt, mae’r gwastadeddau yn gyforiog o natur, yn glytwaith na ellir disodli ei thirwedd, yn hafan bywyd gwyllt.
“Mae’n gartref i ystod rhyfeddol o fywyd gwyllt yn cynnwys y gornchwiglen, dyfrgwn, llygod y dŵr, y chwilen ddŵr fawr arian a phlanhigyn blodeuol lleia’r byd, y Wolffia.
"Y cyfan yn resymau pam y dylem sefyll a gwarchod y rhan yma o’n gwlad cyn i ni ei golli am byth.
"Mae llawer o’r rhywogaethau hyn mewn perygl o ddiflannu o Gymru, a byddai dinistrio eu cartref drwy adeiladu ffordd newydd yn syth trwyddo yn cael effaith ddifrodus a di droi nôl.
"Bydd gwyriad o’r M4 yn creu rhwystr angheuol o draffig a fyddai’n ei gwneud yn amhosibl i fywyd gwyllt ei groesi, ac yn achosi i lif llygredd o wyneb y ffordd ddiferu i’r dyfrffyrdd cyfagos - tiroedd y mae llawer o fywyd gwyllt y Gwastadeddau’n dibynnu arnyn nhw.
"Mae RSPB Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried atebion mwy cynialadwy fel uwchraddio trafnidiaeth gyhoeddus drwy gyfrwng Metro newydd a gynigir ar gyfer de Cymru."
Meddai Katie-Jo Luxton, Cyfarwyddwr RSPB Cymru: “Tristwch y sefyllfa yw nad yw’n bywyd gwyllt yn cael ei werthfawrogi’n ddigonol; caiff ei anwybyddu ac mae eisoes yn dioddef dirywiad enbyd.
"Mae’n rhaid i’r dinistr anllad hwn o’n hetifeddiaeth naturiol ddod i ben.
"Mae’r ardaloedd hyn yn hanfodol i natur yng Nghymru ac mae RSPB Cymru yn annog y cyhoedd i sefyll fel un a’u gwarchod.
“Mae’r cynnig arfaethedig hwn yn enghraifft o feddylfryd Llywodraeth sydd wedi hen ddyddio, sy’n ystyried ein hamgylchedd fel dim ond anghyfleustra, neu’n adnodd i’w ddefnyddio a’i ecsbloetio er budd tymor byr – yn hytrach na rhywbeth y dylem ei ddathlu fel rhan o’r hyn sy’n gwneud Cymru’n ardderchog.
“Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i bobl yng Nghymru, ac unrhyw un arall sy’n malio am gefn gwlad Cymru, anfon neges glir y byddai adeiladu dargyfeiriad o’r M4 yn dinistrio natur ac etifeddiaeth naturiol Cymru.
"Os bydd Llywodraeth Cymru’n bwrw ymlaen â chreu gwyriad arfaethedig yr M4 ar draws ardal sydd mor bwysig i fyd natur â Gwastadeddau Gwent, yna a oes unrhyw le yng Nghymru’n ddiogel?
"Mae hefyd yn cwestiynnu ymrwymiad y Llywodraeth i Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r bwriad i “gynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau gweithredol iach.”
Mae RSPB Cymru yn gofyn i’r cyhoedd leisio’u barn yn uchel ac ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau, 4 Mai, drwy ebostio Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol ac erfyn arnyn nhw i ollwng y cynnig.
Ewch i rspb.org.uk/M4campaign i weld sut y gallwch ymateb a sicrhau y gall y rhan arbennig yma o‘r wlad ffynnu am flynyddoedd i ddod.
Llun: Gwastadeddau Gwent a'r llygoden ddŵr sydd dan fygythiad