Mwy o Newyddion
Aelodau Seneddol yn annog ceisiadau am brofiad gwaith cyflogedig yn San Staffan
Mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams a Liz Saville Roberts yn galw ar bobl ifanc Arfon a Dwyfor Meirionnydd i wneud cais i weithio yn San Steffan am naw mis fel rhan o gynllun i hyrwyddo gwaith y Senedd i bobl sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ond sydd ddim mewn sefyllfa i gael mynediad i’r math yma o brofiad.
Bwriad Cynllun Profiad Gwaith y Llefarydd yw mynd i’r afael â’r diwylliant o brofiad gwaith heb dâl trwy gynnig naw mis o waith cyflogedig gyda Aelod Seneddol.
Mae’r cynllun yn cynnig profiad gwaith cyflogedig i bobl o gefndiroedd amrywiol.
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyflogi am naw mis, gan dreulio Dydd Llun i Ddydd Iau mewn swyddfa AS a Dydd Gwener gyda adrannau gwahanol o Dŷ’r Cyffredin.
Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon, Hywel Williams: “Rwy’n gwybod am nifer o bobl ar draws Arfon a fyddai’n falch iawn o dreulio cyfnod yn gweithio yn San Steffan ond fod amgylchiadau yn eu rhwystro rhag gwneud hynny.
“Nid cyfnod o brofiad gwaith traddodiadol yw hwn, yn ffeilio, llun-gopio a gwneud paneidiau o de.
"Mae’n rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus gael profiad o weithio mewn swyddfa AS yng nghalon San Steffan.”
Ychwanegodd Liz Saville Roberts AS: “Mae hwn yn gyfle gwych i unrhywun sydd â diddordeb brŵd mewn gwleidyddiaeth i ddeall sut mae’r broses Seneddol yn gweithio.
"Mae’n holl-bwysig ein bod yn agor y Senedd i fyny i bobl o gefndiroedd gwahanol fel bod y byd gwleidyddol yn gynrychiadol o’n cymdeithas.
“Mae’r cyfleoedd profiad gwaith cyflogedig yma yn gyfle euraidd i bobl sy’n awyddus dilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth ond sydd ddim yn gallu fforddio ail-leoli i Lundain, i gael profiad o weithio mewn swyddfa Aelod Seneddol.
“Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn Nwyfor Meirionnydd sydd â diddordeb mewn gwleidyddiaeth yn gwneud cais am y cyfle yma a byddaf yn croesawu’r cyfle o fentora unrhywun sy’n dod yma ar brofiad gwaith.”