Mwy o Newyddion
Mair Carrington Roberts yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams
Mair Carrington Roberts o Lanfairpwll, Ynys Môn, yw enillydd Medal Goffa Syr T.H.Parry-Williams er clod eleni. Cyflwynir y Fedal yn flynyddol i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol yn eu hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobl ifanc.
Mae Mair Carrington Roberts yn adnabyddus i genedlaethau o Eisteddfodwyr am ei gwaith diflino ym myd y Pethe dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Er yn byw ym Môn erbyn hyn, mae cyfraniad Mair hefyd i’w weld yn y gogledd ddwyrain, lle y bu’n byw a gweithio am flynyddoedd, a lle y bu’n hyfforddi, dysgu a pharatoi cannoedd o blant a phobl ifanc ar gyfer pob math o gystadlaethau a pherfformiadau, gan gynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol.
Yn gynnar yn y 1970au, aeth Mair ati i greu parti canu yn ardal Wrecsam, Parti’r Ffin. Dyma barti a gyfrannodd yn helaeth at ddiwylliant yn ardal Wrecsam am bron i ugain mlynedd, gan dyfu mewn maint nes bod 30 o aelodau yn y pen draw. Bu hefyd yn gyfrifol am sefydlu côr yng Nghapel y Groes, Wrecsam gan gynnwys nifer o blant a phobl ifanc yr ardal.
Gyda’i diddordeb mawr ym myd cerdd dant a cherddoriaeth yn gyffredinol, mae Mair wedi cefnogi a rhoi hwb i nifer fawr o bobl ifanc, fel cyfeilydd ar gyfer pob math o arholiadau, ac fel hyfforddwr partïon ifanc. Hyd heddiw, mae galw mawr arni i baratoi pobl ifanc ar gyfer cystadlaethau ac arholiadau, ac mae Mair wrth ei bodd yn treulio oriau yn gwneud hyn ym Môn, fel y bu’n gwneud am flynyddoedd lawer yn Wrecsam cyn hynny.
Mae gwasanaeth a chyfraniad Mair i eisteddfodau o bob math yn enfawr. Bu’n beirniadu eisteddfodau’r Urdd, yn y cylch, y sir ac yn genedlaethol ers dros hanner canrif. Mae hefyd yn credu’n gryf yng nghyfraniad yr eisteddfodau lleol fel meithrinfa ar gyfer yr eisteddfodau cenedlaethol, ac mae’i gwasanaeth, boed yn feirniad neu’n hyfforddwr, yn broffesiynol ac yn adeiladol bob amser.
Nid yw byth yn bychanu ymdrech unrhyw ymgeisydd, ond yn ei symbylu i symud ymlaen i berffeithio’i grefft, ac yn ddi-os, mae hyn wedi ysbrydoli nifer fawr o blant a phobl ifanc dros y blynyddoedd. Mae’i brwdfrydedd a’i chyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T.H. Parry-Williams, a thrwy hynny, mae’n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni.
Bu Syr T.H.Parry-Williams yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod Genedlaethol, ac yn Awst 1975, yn dilyn ei farwolaeth ychydig fisoedd ynghynt, sefydlwyd cronfa i goffáu’i gyfraniad gwerthfawr i weithgareddau’r Eisteddfod. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Syr Thomas Parry-Williams.
Bydd Mair yn derbyn y Fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau o 29 Gorffennaf – 6 Awst, a gynhelir ar Ddolydd y Castell, Y Fenni.
Guto Roberts yn derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg
Cyflwynir Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau i Guto Roberts, Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd hyn yng nghyfarfod diweddar Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth.
Bu Guto Roberts yn ymwneud gyda Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1971, pan drefnwyd y babell gyntaf ar y Maes. Wrth i bresenoldeb Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ddatblygu a chynyddu dros y blynyddoedd, roedd cynlluniau Guto’n mynd yn fwyfwy uchelgeisiol, gan roi cyfle i genedlaethau o wyddonwyr ifanc i gael eu hysbrydoli gan fodelau , arddangosfeydd a theclynnau gwyddonol o bob math ar y Maes yn flynyddol.
Sicrhaodd Guto fod Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cael lle cymwys ar y Maes ac yn nhestunau’r Eisteddfod, a bu’n gwasanaethu ar bwyllgor canolog Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod am ugain mlynedd yn ogystal.
Roedd Guto hefyd yn gyfrifol am roi’r rhaglen weithgareddau a darlithoedd at ei gilydd ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, a bu’n allweddol i’r gwaith o sicrhau bod ymwelwyr i’r Eisteddfod yn cael gwybod am berthnasedd datblygiadau gwyddonol byd-eang i ni yma yng Nghymru, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dyma’r cyfnod pan yr aethpwyd ati i hyrwyddo pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) yn yr Eisteddfod er mwyn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr mewn astudio’r pynciau hyn yn y Gymraeg.
Yn wreiddiol o Ben Llŷn, astudiodd Guto ffiseg yn y brifysgol yn Aberystwyth, lle bu’n rhan o’r gymuned a chymdeithas Gymraeg yn y coleg, gan gyd-arwain ymgyrch lwyddiannus i sefydlu neuadd breswyl Gymraeg yn y coleg, a chyda Iolo ap Gwynn a’r diweddar Dyfrig Jones, sefydlodd Gymdeithas Wyddonol Aberystwyth, y gymdeithas wyddonol Gymraeg gyntaf.
O’r coleg aeth i ddysgu Ffiseg ym Mholytechnig Cymru, Pontypridd, ac erbyn ei ymddeoliad yn 2000, roedd yn bennaeth grŵp Ffiseg Prifysgol Morgannwg. Treuliodd ei gyfnod yn dysgu, ymchwilio, arwain grwpiau ymchwil a chyhoeddi, gan edrych yn arbennig ar briodweddau nwyon dan wasgedd isel, cynhesu dŵr gydag egni’r haul gan ddefnyddio tiwbiau dan wasgedd isel a gwyddor offer a rheolaeth.
Bu hefyd yn Brif Arholwr Safon Uwch Ffiseg Cyd-bwyllgor Addysg Cymru yn y 90au, yn is-gadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod yr Urdd yn 1991, ac roedd yn un o’r rhai a sefydlodd y fenter iaith yn Rhondda Cynon Taf. Ef oedd cadeirydd cyntaf y fenter a bu’n ymddiriedolwr am dros ugain mlynedd.
Bydd Guto Roberts yn derbyn y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg mewn seremoni arbennig ar Faes yr Eisteddfod yn Sir Fynwy fis Awst.