Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mehefin 2011

Disco Mici Plwm

MAE Mici Plwm wedi cyhoeddi y bydd ei ddisco teithiol enwog yn ôl ar y ffordd – ar y cledrau a dweud y gwir – mewn noson fawr yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam yn yr Eisteddfod eleni.

Yn ôl yn y 60au, cafodd “DJ Plummy” ei ysbrydoli gan Gymdeithas yr Iaith i gael gwared â’i gasgliad o recordiau Saesneg i lansio’r Disco Cymraeg cyntaf, a newidiodd ei enw i “Mici Plwm”.

Ymwelodd Disco Teithiol Mici Plwm â chlybiau a neuaddau pentref trwy Gymru am ugain mlynedd gan rannu llwyfan gyda bandiau fel Edward H. Dafis.

Cymerodd Mici ei hun ran ym ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith, a derbyniodd ddedfryd o 12 mis o garchar gohiriedig am ddringo Mast Trosglwyddo Llanddona yn rhan o’r ymgyrch dros Sianel Deledu Gymraeg.

Dros y tri degawd diwethaf, mae Mici wedi cael gyrfa amlwg mewn adloniant, teledu a’r celfyddydau ac mae wedi sefydlu ei Gwmni Cysylltiadau Cyhoeddus www.miciplwm.co.uk

Nos Fercher, 3 Awst, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal gig yng Nghlwb Gorsaf Ganolog Wrecsam i gyhoeddi 2012 yn Flwyddyn Dathlu Hanner Canmlwyddiant Canu Roc a Phrotestio dros y Gymraeg ers sefydlu Cymdeithas yr iaith ym 1962.

Dywedodd trefnydd y Gymdeithas yn y gogledd, Osian Jones: “Mae Mici Plwm wedi bod yno ers y cychwyn ac wedi gweld y cyfan.

“Mae’n wych y bydd yn cyflwyno’r gig 50 mlwyddiant yn y Steddfod gydag ymddangosiadau byw gan Heather Jones, band mawr yr 80au Maffia Mr Huws, band y 90au Ian Rush, yn ogystal â bandiau cyfoes Gai Toms a Jen Jeniro.”

Ychwanegodd Mici: “Prynwch docyn a dewch ar fwrdd trên y Chwyldro ar gyfer profiad unigryw o 50 mlynedd o ganu roc a phrotest Cymraeg mewn cân a ffilm.

“Bydd y cyfan yno ar y noson – ffilm o brotest Pont Trefechan, dringo’r mastiau, y carchariadau a’r gerddoriaeth orau trwy’r degawdau.

?Mae tocynnau’r noson ar werth am £9 yr un arlein o www.cymdeithas.org/steddfod ac yn bersonol o Gaffi Yales Wrecsam, Awen Meirion Y Bala, Elfair Rhuthun, ac o swyddfeydd y Gymdeithas yng Nghaernarfon, Aberystwyth a Chaerdydd.

Rhannu |