Mwy o Newyddion
Plaid Cymru yn addo chwyldro gofal cymdeithasol i drawsnewid bywydau pobl hŷn a’r sawl â dementia
Bydd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones a’r ymgeisydd Cynulliad dros Aberconwy, Trystan Lewis, heddiw yn lansio maniffesto’r blaid i bobl hŷn, gan addo gofalu am y genhedlaeth a ofalodd amdanom ni.
Dywedodd Elin Jones mai cynlluniau arloesol Plaid Cymru i wneud gofal cymdeithasol i bobl dros 65 oed yng Nghymru am ddim dros gyfnod o ddeng mlynedd yw conglfaen y maniffesto, ac ymhlith y cynigion eraill mae bargen deg i bensiynwyr a gwell gwasanaethau gofal iechyd.
Mae’r cynlluniau gofal cymdeithasol yn mynd ymhellach nac unrhyw blaid arall yng Nghymru, a bydd yn sicrhau na fydd pobl yn cael eu gorfodi i werthu eu tai er mwyn talu am ofal, gan roi tawelwch meddwl a gwell sicrwydd i bob cenhedlaeth.
Cyn ymweliad â chlwb cinio pobl hŷn yng Nghanolfan y Drindod yn Llandudno, dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: "Mae ein cynllun ar gyfer pobl hŷn yn fater o gadw’r contract cymdeithasol gyda phobl sydd wedi gweithio trwy gydol eu hoes, wedi talu eu trethi, ac sydd yn awr angen gofal.
"Dros gyfnod o ddeng mlynedd, fe wnawn bob gofal cymdeithasol yng Nghymru ar gael am ddim, gan gychwyn gyda gofal yn y cartref, yna peri y bydd am ddim i bobl gyda dementia sydd mewn cartrefi preswyl, ac yn y pen draw, dileu’r holl daliadau i bawb dros 65.
"Ar hyn o bryd, os ydych yn talu am ofal yn y cartref trwy’r cyngor lleol, mae’n costio hyd at £60 yr wythnos, neu £3,120 y flwyddyn. Dan gynlluniau Plaid Cymru, byddai hwnnw am ddim, a byddai’n fanteisiol i ryw 44,000 o bobl yng Nghymru.
“Bydd peri bod gofal preswyl am ddim i bobl hŷn gyda diagnosis o ddementia yn golygu, yn hytrach na thalu hyd at £30,000 y flwyddyn mewn costau gofal, byddai eich tŷ a’ch cynilion yn cael eu gwarchod, sy’n golygu tawelwch meddwl i chi a’ch teulu.
"Bydd hyn yn helpu oddeutu 13,000 o bobl yng Nghymru sy’n byw gyda dementia fyddai’n cael gwarant o ofal am ddim yn ail gyfnod ein cynlluniau.
"Byddwn yn symud wedyn tuag at ddileu taliadau gofal i bawb dros 65."
Ychwanegodd ymgeisydd Plaid Cymru dros Aberconwy yn y Cynulliad, Trystan Lewis: "Mae Plaid Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag unigrwydd ymysg pobl hŷn, gan fod yn llym ar sgamiau a thwyll, a hybu bywyd hŷn bywiog.
"Mae Plaid Cymru yn cydnabod pwysigrwydd pobl hŷn i gymdeithas Cymru ac i’n heconomi, ac y mae’r cynigion uchelgeisiol hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’w cynnal."