Mwy o Newyddion
Ymunwch ag ail bennod Gŵyl Llên Plant Caerdydd
Mwynhaodd cannoedd o ffans llenyddiaeth ifanc dros 20 o ddigwyddiadau yn ystod penwythnos agoriadol pedwaredd Ŵyl Llên Plant Caerdydd, gyda nifer o sesiynau dang eu sang.
Caiff darllenwyr brwd gyfle arall i fod yn rhan o’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal drwy’r wythnos a phenwythnos nesa hefyd – y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal dros ddau benwythnos, i gyflwyno rhaglen brysur sydd â mwy o ddigwyddiadau nag erioed o’r blaen.
Does dim tocynnau ar ôl i’r sioe hynod boblogaidd ag un o’n ffefrynnau cyson, Jacqueline Wilson, y penwythnos nesa, a bydd hefyd yr arlwy Gymraeg fwyaf erioed yn cael ei chynnig.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae’r gyflwynwraig teledu plant Mari Løvgreen, Taith Môr-ladron yn Canu â Dan Anthony a sesiwn ar Anturiaethau Bwystfilod Bach â Jess French o CBeebies.
Mae hefyd sesiynau am ddim i ysgolion wythnos yma, gyda sesiynau adrodd stori am ddim yn John Lewis Caerdydd am 11am, 1pm a 3pm ddydd Sadwrn a dydd Sul nesa, a sesiynau crefft Roald Dahl yn y Cwrt Bwyd ar Lawr Cyntaf Canolfan Siopa Dewi Sant ar yr un diwrnodau.
Eleni yw canmlwyddiant geni’r awdur a aned yng Nghaerdydd, ac mae gan nifer o weithgareddau’r ŵyl thema Roald Dahl.
Gallwch ddilyn Helfa Drysor Roald Dahl hefyd drwy gydol yr ŵyl, gyda chliwiau wedi’u cuddio yn arcedau Sioraidd a Fictorianaidd niferus canol y ddinas.
Cyflwynodd y gyflwynwraig teledu plant Cerrie Burnell sesiwn am ei llyfr, Harper and the Circus of Dreams yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn a dywedodd: “Ces i a fy nheulu groeso gwych yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd a dwi wrth fy modd bod pob digwyddiad yn £4 neu’n rhatach, sy’n golygu y gall pob teulu alw heibio a chael cyfle i ymhyfrydu ym myd straeon.
Roedd sesiwn Holly Webb, ‘Unlock the Magic’, yng Nghastell Caerdydd ddydd Sul hefyd yn ddewis poblogaidd, a dywedodd: “Diolch i drefnwyr Gŵyl Llên Plant Caerdydd, y rhieni ac wrth gwrs y plant am greu digwyddiadau mor hwyliog, mor greadigol a dychmygus!
Cytunodd Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn: “Roedd hi’n arbennig gweld criw mor fywiog a hyderus yn fy sesiwn i yn Theatr Reardon Smith – roedden nhw’n fwy na pharod i greu hafog gyda mi. Cawsom hwyl yn taflu peli eira geiriau, creu delweddau drafft gydag ansoddeiriau i weld pwy gâi ei goroni â’r Goron Geiriau.”
Mae nifer o sesiynau i oedolion hefyd gydol yr wythnos, a bydd llawer o’r gweithdai cyffredinol yn apelio i ddysgwyr Cymraeg a’u plant.
Nod yr ŵyl yw creu darllenwyr parhaus, ac mae’r tocynnau ar werth drwy Ticketline UK (02920 230 130 neu www.ticketlineuk.com ) a www.digwyddiadau-caerdydd.com
Llun: Bydd Eurig Salisbury yn cynnal sesiwn ar ddydd Sul