Mwy o Newyddion
Gardd Gerallt - Pan edrychwn ni ar flodau’r Magnolia mi gawn gip yn ôl i’r cynfyd
Talfyriad sydd wedi ymddangos yn gyson yn y llithoedd yma ydy RHS. Ie, dyna chi, Royal Horticultural Society, yr elusen arddwriaethol fwyaf yn y byd. Dyma’r peiriant sy’n trefnu sioeau Chelsea, Hampton Court, Caerdydd a Tatton. Dyma hefyd berchen gerddi Wisley, Rosemoor, Harlow Carr a Hyde Hall, gerddi o safon a statws rhyngwladol. Ond, ac mae hwn yn ond mawr, mi fentraf ddweud byddai’r tadau sefydlodd yr RHS wedi bod wrth eu boddau’n hawlio un bluen arall i’w gwisgo yn eu hetiau. Yn enwedig gan mai Ffrainc, ie Ffrainc o holl wledydd y byd, piau’r bluen honno!
Mae’n rhaid bod Monsieur Soulange-Bodin yn ddyn bodlon iawn ei fyd yn 1826. I gychwyn, ef oedd sylfaenydd Cymdeithas Arddwriaethol Genedlaethol Ffrainc. Roedd ganddo ardd nodedig ar gyrion Paris, gardd oedd eisoes yn destun edmygedd ei gyd-wladwyr, a mymryn o genfigen dros y dŵr yn Lloegr. Yno digwyddodd un o’r croesiadau ffodus hynny ddaru newid gwedd a golwg ein gerddi am byth. Dwy o’r coed yn yr ardd oedd Magnolia denudata a Magnolia liliiflora. Epil y croesiad ffodus ydy Magnolia soulangeana, ac mae’n berffaith briodol fod yr enw yn coffáu Monsieur Soulange-Bodin.
Mae hi wedi bod yn flwyddyn dda iawn i’r coed magnolia. Siawns fod teithwyr rhwng de a gogledd wedi mwynhau’r wledd flodeuog. O barciau llyfn Caerdydd i lechweddau Dyffryn Maentwrog prin fod yr un goeden arall wedi hawlio cymaint o sylw’r teithiwr.
Wedi rhyfeddod y blodeuo mae’n llawn cymaint o syndod sut mae coed sy’n gwneud y fath sioe yn ‘diflannu’ am weddill y flwyddyn. Ceisiwch chi gofio’n union lle mae’r coed yma erbyn diwedd Awst. Yn ei lyfr Meetings with Remarkable Trees mae Thomas Pakenham yn awgrymu plannu hedyn coeden magnolia o’r Himalaya ac yna aros am ddeng mlynedd ar hugain i’w gweld yn blodeuo am y tro cyntaf. Mae’r fath gyffro yn ymylu ar fod yn annioddefol!
Pan edrychwn ni ar flodau’r Magnolia mi gawn gip yn ôl i’r cynfyd. Dyma rai o’r planhigion cyntaf i genhedlu trwy ddefnyddio blodau’n cael eu peillio gan bryfed. Ceir rhai disgynyddion, megis lili’r dŵr, sydd wedi goroesi ledled y byd. Eraill, fel y Ginkgo, wedi eu hynysu i ardaloedd cyfyng iawn. Asia a Gogledd America ydy cynefinoedd naturiol y Magnolia. Ceir disgrifiad o goed Magnolia ym Mecsico gan Fransisco Hernandez, meddyg Phylip yr ail o Sbaen yn 1570.
Hyd y gwyddom ni, y Sais, John Bannister, yrrodd y planhigyn byw cyntaf yn ôl i Brydain yn 1688. Wel, mi oedd yn rhaid i Sais gael ei fys rhywle yn y brwas! Magnolia’r gors neu magnolia Virginia oedd hon, coeden sy’n nodedig am ei hymateb sydyn pan fo’i blodau wedi eu peillio. Hanner awr wedi’r peillio ddigwydd bydd y blodau’n gwywo a throi’n frown tywyll.
Pa syndod felly mai Magnolia soulangeana, a’i blodau’n ffiolau cywrain, sydd bellach yn un o’r coed Magnolia mwyaf poblogaidd erbyn heddiw? Merci, Monsieur Soulange-Bodin!