Mwy o Newyddion
Gwaith yn dechrau ar faes Eisteddfod Sir y Fflint
Heddiw, torrwyd y dywarchen gyntaf ar safle Eisteddfod yr Urdd Sir y Fflint 2016 i nodi dechrau ar y gwaith o adeiladu’r Maes.
Bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal eleni 30 Mai – 4 Mehefin ar dir ger Ysgol Uwchradd y Fflint.
Bydd yn cymryd chwech wythnos i gael y safle yn barod ar gyfer y 90,000 o ymwelwyr a ddisgwylir ar y safle ddiwedd Mai.
Bydd y trac fyrddau yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos gyntaf, gyda’r prif strwythurau yn yr ail wythnos.
Y gobaith yw y bydd y pafiliwn wedi ei godi erbyn y drydedd wythnos (canol Mai) gyda’r strwythurau llai a’r stondinau yn yr wythnosau olaf.
Fe fydd Ysgol Uwchradd y Fflint yn rhan o’r Maes eleni, gyda’r rhan fwyaf o ragbrofion yn cael eu cynnal yn yr ysgol.
Bydd 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos mewn cystadlaethau yn amrywio o ganu, actio a dawnsio i drin gwallt a choginio.
Yn ogystal â’r cystadlu, bydd gweithgareddau i ddiddanu yr holl deulu ar y Maes gan gynnwys sesiynau chwaraeon, wal ddringo, sioeau i blant, ffair, cerddoriaeth fyw a dros 80 o stondinau yn cynnig gweithgareddau ac yn gwerthu nwyddau amrywiol.
Gyda’r nos, bydd cyngherddau, sioeau a chystadlu gyda sêr megis Mike Peters, Mark Evans a Richard & Adam yn perfformio yn y cyngerdd agoriadol nos Sul (29 Mai).
Bydd dros 200 o blant a phobl ifanc Sir y Fflint yn perfformio mewn dwy sioe gerdd - yr un gynradd, Fflamau Fflint, nos Fawrth (31 Mai) yn y pafiliwn a’r criw uwchradd yn perfformio ‘Hêrspre’ nos Sadwrn (28 Mai) a nos Lun (30 Mai) yn Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn.
Jeremy Griffiths, Pennaeth Ysgol Gwynedd, yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith ac aelod allwedd o’r criw o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn codi arian ac ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod yn yr ardal ers dros ddwy flynedd.
Meddai: “Mae’n wych gweld y gwaith yn cychwyn ar ôl yr holl ymdrech mae pawb wedi ei wneud hyd yn hyn.
"Mi fydd yr wythnosau nesaf yn andros o brysur i bawb sy’n cyfrannu i drefniadau’r ŵyl mewn unrhyw ffordd, ond mi fydd gweld y Maes yn codi yn siŵr o roi egni ac ysbrydoliaeth i ni gyd.”
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gefnogol iawn i’r Eisteddfod, ac wedi ei chroesawu i’r ardal.
Yn ôl Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Y Cynghorydd Aaron Shotton: “Mae Eisteddfod yr Urdd yn gyfle gwych i arddangos doniau a sgiliau pobl ifanc ac yn sicr mi fydd yn ddigwyddiad poblogaidd ymysg trigolion ac ymwelwyr ein sir.”
Un ardal sydd eisoes wedi gweld budd o gael yr Eisteddfod yn ymweld â hi yw Caerffili, ble cafodd yr Eisteddfod ei chynnal yn 2015.
Yn ôl y Cynghorydd Keith Reynolds, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili: “Roedd cynnal digwyddiad mor bwysig a phoblogaidd ag Eisteddfod yr Urdd yn hwb enfawr i Gyngor Bwrdeistref Caerffili, ac roeddem yn falch iawn o groesawu dros 88,000 i Lancaiach Fawr mis Mai llynedd.
“Mae’r adborth ydym ni wedi gael yn ystod ac yn dilyn Eisteddfod yr Urdd wedi bod yn bositif iawn a does na ddim dwywaith y bydd yn cael croeso cynnes gan Sir y Fflint eleni.”
Ychwanegodd Aled Sion, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd: “Mae’n amser cyffrous iawn pan fydd y gwaith yn dechrau ar y Maes, a’r criw adeiladu yn dechrau ar eu gwaith.
"Mae’n anhygoel beth y gallan nhw ei gyflawni mewn chwech wythnos yn trawsnewid cae gwyrdd yn safle gweithredol yn barod i groesawu ieuenctid a theuluoedd o bob cwr o Gymru.”