Mwy o Newyddion
Gwrthod dwy apêl gan berchennog hen fwthyn yn Llanuwchllyn
Mae Ty’n y Ffridd yn fwthyn carreg un-llawr a adeiladwyd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Oherwydd ei nodweddion pensaernïol arbennig, y deunyddiau traddodiadol ddefnyddiwyd i’w adeiladu, a’i fod yn annedd unllawr â beudy ynghlwm sy’n anghyffredin yn y rhan hwn o Eryri, mae wedi ei restru fel Adeilad Rhestredig Gradd 2.
Yn 2007 rhoddwyd Caniatâd Adeilad Rhestredig a chaniatâd cynllunio i berchennog Ty’n Ffridd i addasu’r beudy er mwyn darparu mwy o lety ac i adeiladu estyniad.
Ond yn ôl yr arolygwr James Ellis LlB, mae’r gwaith sydd wedi ei gyflawni ar yr eiddo yn bur wahanol i’r cynlluniau a gymeradwywyd yn wreiddiol yn 2007 ac o ganlyniad mae wedi effeithio’n andwyol ar gymeriad yr adeilad rhestredig.
Ym mis Gorffennaf 2015, cyflwynodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri Rybudd Gorfodaeth i berchennog Ty’n y Ffridd.
Nid oedd y gwaith a wnaed ar y bwthyn yn cydymffurfio â’r cynlluniau gafodd Ganiatâd Adeilad Rhestredig a chaniatâd cynllunio ac roedd gwaith ychwanegol wedi ei gyflawni nad oedd wedi derbyn caniatâd o gwbl.
Dymchwelwyd y beudy a waliau cerrig sych, ychwanegwyd estyniad bron i ddwywaith hyd y bwthyn gwreiddiol, defnyddiwyd cerrig anaddas ar gyfer yr estyniad, ychwanegwyd portsh anghydnaws â gweddill y bwthyn, tynnwyd ffenestri traddodiadol a gosodwyd ffenestri modern amhriodol yn y bwthyn, disodlwyd yr hen gorn simdde goch wreiddiol gan gorn du a metal a newidwyd manylion y to.
Yn ychwanegol at hyn, codwyd strwythur wal blociau concrid ar gyfer gosod tanc olew, a gwnaed gwaith cloddio sylweddol yn ogystal â chodi wal gynnal heb ganiatâd cynllunio.
Wrth grynhoi, dywedodd yr Arolygwr fod y gwaith a wnaed i’r beudy a chodi’r estyniad wedi niweidio’n sylweddol ddiddordeb hanesyddol a phensaernïol arbennig yr adeilad rhestredig.
Cadarnhaodd ofynion y Rhybudd Gorfodaeth a nodi bydd angen i’r perchennog fynd ati i dynnu yr estyniad i lawr, tynnu’r portsh a gosod llechi Cymreig naturiol uwchben y drws ar flaen y tŷ, ail osod ffenestri â ffenestri traddodiadol, ail osod y corn simdde, newid manylion y to, ail adeiladu’r beudy yn union yr un maint â’r beudy gwreiddiol, ail adeiladu’r waliau cerrig sych, tynnu’r wal gynnal i lawr, ail-lenwi'r tir a gloddiwyd i’w lefelau blaenorol a thynnu wal o flociau concrid a’r tanc olew i lawr.
Ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, dywedodd y Swyddog Cynllunio (Cydymffurfio) Iona Thomas: “Mae rhai o adeiladau Eryri, megis yr adeilad hwn yn Llanuwchllyn wedi eu rhestru am reswm arbennig.
"Roedd nodweddion pensaernïol gwreiddiol Ty’n Ffridd yn gofnod hanesyddol bwysig o fywyd amaethyddol a ffordd o fyw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
"Wrth gael gwared ar y nodweddion hyn, ynghyd â chyflawni gwaith adeiladu heb awdurdod, mae un o rinweddau arbennig y Parc Cenedlaethol wedi ei ddifrodi’n gwbl ddiangen.”
Mae gan berchennog Ty’n y Ffridd ddwy flynedd i gydymffurfio â gofynion y Rhybudd Gorfodaeth.
Lluniau: Ty’n y Ffridd cyn y gwaith a llun o Dy’n y Ffridd oedd yn destun yr apêl