Mwy o Newyddion
Wyth o wobrau BAFTA i S4C
ENILLODD rhaglenni S4C wyth o wobrau yn seremoni wobrwyo BAFTA Cymru 2011 gan gynnwys y Cyflwynydd Gorau i Angharad Mair o’r rhaglen nosweithiol Wedi 7, a gynhyrchir gan Tinopolis.
Rhoddwyd y wobr i Angharad Mair am raglen deyrnged yng nghyfres Wedi 7 i’r hanesydd, awdur ac ymgyrchwr dros yr iaith Gymraeg, Hywel Teifi Edwards a fu farw llynedd.
Enillodd y ddrama gyfres Caerdydd, a gynhyrchir gan Fiction Factory i S4C, ddwy wobr, am yr Awdur Gorau a’r wobr am Ddylunio Gwisgoedd.
Cafodd y rhaglen ddogfen rymus O’r Galon: Y Trên i Ravensbrück ddwy wobr hefyd – y wobr Golygu: Ffeithiol a’r wobr Camera Gorau.
Y ddrama gyfres Pen Talar, cynhyrchiad Fiction Factory i S4C, enillodd y wobr Cerddoriaeth Gorau. Gwanas i Gbara, cyfres Teledu Telesgôp i S4C, yn dilyn Bethan Gwanas ar daith emosiynol i Nigeria, enillodd y wobr Cyfarwyddwr: Ffeithiol. Cipiodd y gyfres Byw yn ôl y Llyfr y wobr am y teitlau gorau. Crëwyd y teitlau gan Dinamo i’r cynhyrchwyr Cwmni Da.
Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Comisiynu S4C: “Rydym yn falch iawn bod cymaint o’n rhaglenni wedi cael cydnabyddiaeth a llwyddiant yng ngwobrau BAFTA Cymru.
“Mae’n dyst i safon cynnyrch S4C ac ymroddiad a gallu’r sector gynhyrchu yng Nghymru. Mae’n gydnabyddiaeth deilwng o’u gwaith caled i gynhyrchu rhaglenni o’r radd flaenaf.”