Mwy o Newyddion

RSS Icon
18 Ebrill 2016

Plaid Cymru yn datgelu ‘Cynllun Economaidd Cenedlaethol’ i bweru Cymru tuag at lwyddiant

Mae Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth heddiw wedi amlinellu cynlluniau ei blaid ar gyfer Cynllun Economaidd Cenedlaethol sydd wedi ei lunio er mwyn cau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y Deyrnas Gyfunol.

Mae gan Gynllun Economaidd Cenedlaethol Plaid Cymru dair elfen:

  • Cynyddu lefel sgiliau
  • Strategaeth ddiwydiannol weithredol
  • Cynllun cynhwysfawr ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd

?Dywedodd Rhun ap Iorwerth mae amcan tymor-canol ei blaid oedd cau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DG, drwy ganolbwyntio ar dargedau uchelgeisiol i sicrhau cyfnod parhaus o dwf economaidd.

“Mae Plaid Cymru yn deall bod rhaid i ni adeiladu economi gadarn os ydym eisiau i Gymru gael gwasanaethau cyhoeddus gwerth chweil.

“Mae 17 mlynedd o lywodraeth wedi ei harwain gan Lafur sydd yn or-ofalus a diddychymyg o ran creu swyddi a thwf wedi gadael Cymru ymhell ar ei hôl hi. Ar hyn o bryd mae GVA y pen Cymru ond 71.4% o gyfartaledd y DG, sy’n golygu bod gweithwyr yng Nghymru yn ennill 15% yn llai na chyfartaledd y DG.

“Dyma pam mai blaenoriaeth economaidd Plaid Cymru yn yr etholiad hwn yw torri’r diffyg Cymreig a dechrau cau’r bwlch economaidd rhwng Cymru a gweddill y DG.

“Er mwyn cyflawni hyn rydym wedi llunio Cynllun Economaidd Cenedlaethol sy’n cynnwys tair prif elfen: cynyddu lefel sgiliau, strategaeth ddiwydiannol weithredol a chynllun cynhwysfawr ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd.

“Mae’r Cynllun yn cynnwys ystod o fesurau fel creu 50,000 o brentisiaethau newydd i uwch-sgilio myfyrwyr, creu clwsteri o gwmnïau technoleg-uwch ac arloesol fwy arbenigol er mwyn creu swyddi o safon uchel mewn sefydliadau technoleg uwch, sefydlu Banc Cenedlaethol er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch cyllido o £500m y flwyddyn sy’n wynebu busnesau bach a chanolig a dyblu'r gyllideb ymchwil a datblygu drwy Gorff Arloesi Cenedlaethol.

“Mi wnawn ni hefyd ddechrau’r rhaglen fwyaf o ailadeiladu mae’n cenedl wedi ei weld ers datganoli. Fe wnawn ni sefydlu corff newydd, y Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol Cymru er mwyn trawsnewid ein sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus a’n rhwydweithiau digidol.

“Bydd ein Hasiantaeth Datblygu Cymru (WDA) yn helpu busnesau cynhenid i lwyddi ac yn hwb i allforion, yn denu buddsoddiad o amgylch y byd ac yn adfywio brand sy’n adnabyddus ledled y byd.

“Yr unig ffordd i wella sefyllfa economaidd Cymru yw drwy weithredu rhaglen gynhwysol o fuddsoddi ar gyfer twf. Tra mae Llafur a’r Torïaid yn hapus i ddefnyddio tlodi ein cenedl fel ffordd o sgorio pwyntiau gwleidyddol, mae Plaid Cymru yn gwrthod derbyn mai dyma yw’r gorau all Gymru fod.

“Bydd ein cynlluniau cyfrifol a darbodus yn helpu i bweru Cymru tuag at lwyddiant a rhoi terfyn ar statws economaidd Cymru fel gŵr sâl y Deyrnas Gyfunol.”

Rhannu |