Mwy o Newyddion
Dinas ymbelydrol Yr Wcráin - 30 mlynedd ers trychineb Chernobyl
KIEV ydi prifddinas Yr Wcráin, ond Pripyat ydi’r ddinas na fedra’ i ei chael allan o fy meddwl.
Yno, prin naw milltir o’r ffin â Belarws yng ngogledd eithaf y wlad, yr arferai nifer helaeth o weithwyr gorsaf niwclear Chernobyl fyw: adeiladwyd Pripyat yn arbennig gogyfer a’r pwrpas hwnnw yn 1970.
Ond, bellach, does neb na dim ar ôl oni bai am y trugareddau a adawyd yn y man a’r lle pan wacawyd y tai a’r swyddfeydd a’r ysgolion ac y symudwyd 50,000 o bobol oddi yno ddiwrnod a hanner wedi i Adweithydd 4 doddi yn y ddamwain niwclear waethaf erioed ar 26 Ebrill, 1986.
Mi fentrodd lladron i’r Pripyat ymbelydrol i ddwyn. Lladron dewr. Neu ladron gwirion. Doedd hyd yn oed preswylwyr Pripyat ddim eisiau y rhan fwya’ o’u trysorau nhw’u hunain, gan mor wenwynig oedd – ac ydi – pob peth yno.
Fe gafodd oddeutu 135,000 o bobol eu symud o’r ardal a oedd o fewn 30km o’r atomfa yn 1986, ac fe lygrwyd bron i chwarter tir Belarws, 4.8% o diroedd Yr Wcráin a 0.5% o dir Rwsia gan y ddamwain.
O’r baneri Gŵyl Fai sy’n dal i chwifio ar y strydoedd yno cyn dathliad nas cafwyd yn 1986; i’r dodrefn a’r teganau, y gemwaith a’r ffotograffau, y dillad a’r ceir sy’n aros heb eu twtshiad; dim ond anifeiliaid gwylltion ac ysbrydion sy’n ffynnu yn y ddinas dawel bellach.
A chan fod Dyn wedi’i dynnu allan o’r ecosystem, mae arbenigwyr ar fyd natur yn dweud fod anifeiliaid mawr eraill fel y blaidd, y lyncs, y carw a’r baedd gwyllt, yn ogystal ag adar fel yr alarch a’r dylluan, wedi dychwelyd yno i dra-arglwyddiaethu.
Pan ydach chi’n dod wyneb yn wyneb â lle felly, neu pan syllwch chi ar yr olwyn ffair newydd sbon a’i cheir bach yn hongian yn wag yn nannedd y gwynt, erioed wedi’u defnyddio gan mai diwrnod wedi’r ddamwain yr oedd y ffair i fod i agor ei giatiau am y tro cyntaf, mae’n teimlo’n debyg iawn i ffilm arswyd.
A phan feddyliwch fod Adweithydd 2 atomfa Yr Wylfa ym Môn wedi’i gau i lawr ar 26 Ebrill, 2012 – 26 blynedd oddi ar drychineb Yr Wcráin, mae’n gyrru ias i lawr yr asgwrn cefn. Os ydi olwyn y ffair yn llonydd a stond heddiw yn Pripyat, mae olwyn amser yn troi’n rhyfeddol o eironig…
Pa mor ymbelydrol?
Dim ond er 2011 y mae teithiau twristaidd i Chernobyl yn cael eu caniatáu mewn gwlad sydd – er ei bod hi’n mynnu ei hannibyniaeth, ei hiaith a’i diwylliant ei hun – yn dal yn hynod o Sofietaidd ei gweinyddiaeth. Mae rhannau o’r Wcráin yn ysu am osio at wledydd Ewrop, ond eto, mae hi mor bell – fel y mae’r rhyfel cartref yn tystio.
Pan doddodd Adweithydd 4, fe ollyngwyd naw tunnell o lwch ymbelydrol i’r awyr – 90 gwaith yr ymbelydredd a fwriwyd i’r aer gan fom atomig Hiroshima. Fe gariwyd yr ymbelydredd hwnnw dros wledydd Belarws, Rwsia, Pwyl, gwledydd y Baltig a chyn belled ag Iwerddon, Norwy… a Chymru.
I ni yng Nghymru, mae’r Wcráin wedi bod yn gysgod tros ffermydd Eryri a Môn am 30 mlynedd. Dim ond ym mis Mehefin, 2012 y daeth yr angen cyfreithiol o sganio defaid ac ŵyn am ymbelydredd i ben, wedi i wyntoedd chwythu’r cwmwl o lwch ymbelydrol draw o Chernobyl yn 1986.
Ar daith i orsaf bŵer Chernobyl heddiw, mae twristiaid yn cael eu sganio am ymbelydredd – un waith pan fyddwch chi’n croesi’r ffin 30km oddi wrth yr adweithydd, ac un waith eto wrth groesi’r ffin sydd o fewn 10km o’r safle.
Mae dosimetrau (peiriannau llaw i fesur ymbelydredd) yn cael eu rhannu i bawb sy’n dymuno creu gêm o’r profiad rhyfedd a gweld bys y cloc yn pendilio.
Dydi ymweld â’r lle ddim peryclach na chael tynnu llun pelydr-x yn yr ysbyty, neu’r lefelau o ymbelydredd y mae’r corff yn ei wneud ei hun yn agored iddyn nhw wrth godi i’r awyr mewn awyren.
Dyna ddywed y blyrb ar daflenni’r cwmni taith, beth bynnag...
Ond mae yna rybudd am “hot spots” ar y daith, a gorchymyn i beidio â mentro i nunlle ar eich pen eich hun na heb ganiatâd.
Mae llwch ymbelydrol yn dal i nofio ar donnau’r awyr, ac mae ambell i batshyn o grinwellt yn clystyru’r gwenwyn hefyd.
Mi gewch chi fynd mor agos â 200m at Adweithydd 4, a sbïo oddi yno ar y sarcoffagws, neu’r gragen o goncrit, a gafodd ei godi’n frysiog i guddio’r beiau 25 mlynedd yn ôl.
Mae’r gwaith gwerth £700,000,000 (neu 1 biliwn ewro) o adeiladu cragen gryfach, sydd ddim yn debygol o gracio na gollwng ymbelydredd fel yr un bresennol, eto i gael ei gwblhau ac mae tua 2,500 o ddynion wedi bod yn gweithio yno.
Mae caniatâd wedi ei roi hefyd i brosiect adeiladu anferthol arall yn Chernobyl – safle i gladdu holl wastraff ymbelydrol yr orsaf niwclear.
Mae hwnnw’n gontract a hanner yn Yr Wcráin, ond sy’n adlewyrchu’r cwestiwn mawr ynglŷn â’r defnydd o bwer niwclear ar draws y byd.
A dyna pam y mae natur y diwydiant, a natur anwadal ei wastraff, ei warediad a’i ddefnyddioldeb i gynhyrchu arfau, yn gwestiwn sy’n poeni ac yn bygwth y ddaear hon yn gyfan.